Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Y Cyngor

Mae 60 o Aelodau etholedig ar y Cyngor. Mae manylion yr Aelodau i'w gweld yma: Eich Cynghorwyr

Mae'r Cyngor yn gyfrifol am swyddogaethau'r Cyngor, sydd ddim dan gyfrifoldeb y Cabinet, ac yn cael ei gadeirio gan y Maer gyda'r Dirprwy Faer yn Is-gadeirydd.

Mae tri math o gyfarfod o'r Cyngor:

  1. Cyfarfod Blynyddol y Cyngor – sy'n ethol y Maer ac yn penodi'r Dirprwy Faer, yr Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y Cyngor ar gyfer y flwyddyn Ddinesig
  2. Cyfarfodydd cyffredin - sy'n cael eu cynnal bob chwech wythnos.
  3. Cyfarfodydd anghyffredin (gelwir hefyd yn arbennig) – sy'n digwydd pan fo angen

Cynhelir cyfarfodydd y Cyngor yn unol â'r Rheolau Gweithdrefn fel y cynhwysir yn Erthygl 4 o'r Cyfansoddiad. Mae cyfarfodydd y Cyngor ar agor i'r cyhoedd eu mynychu, ac eithrio pan fydd materion personol neu gyfrinachol yn cael eu trafod, fel y diffinnir gan y gyfraith.

Rhagor o wybodaeth

Am rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaethau Democrataidd
Canolfan Ddinesig Port Talbot
Ystafell 205
Port Talbot
SA13 1PJ

Ffôn: 01639 763375

E-bost: democratic.services@npt.gov.uk