Pwyllgorau Rheoleiddio
Mae Pwyllgorau Rheoleiddio yn fforymau gwneud penderfyniadau y mae'n rhaid i'r Cyngor eu cael yn ôl y gyfraith. Mae unrhyw Bwyllgor sy'n cyflawni swyddogaethau'r Cyngor i benderfynu ar geisiadau am drwyddedau, tystysgrifau, cofrestriadau a chydsyniadau tebyg, yn cael ei ystyried yn Bwyllgor Rheoleiddio. Y canlynol yw Pwyllgorau Rheoleiddio Cyngor Castell-nedd Port Talbot:
Panel Apeliadau
Mae'r cyfarfod hwn yn ymdrin ag apeliadau sy'n ymwneud â digartrefedd (er nad yw'r Cyngor bellach yn berchen ar unrhyw stoc tai, mae ganddynt gyfrifoldeb cyfreithiol o hyd dros ddigartrefedd) ac apeliadau staffio (yn ymwneud â staff y Cyngor).
Pwyllgor Archwilio
Rôl y pwyllgor archwilio yw rhoi sicrwydd annibynnol ar ddigonolrwydd y rheolaeth risg a'r rheolaethau mewnol sydd ar waith yn y Cyngor a chywirdeb y prosesau adrodd ariannol a llywodraethu
Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
Mae'r Pwyllgor hwn yn cynnwys 11 Cynghorydd ac mae'n parhau i adolygu digonolrwydd y ddarpariaeth o staff, adeiladau ac adnoddau eraill sydd ar gael i gyflawni swyddogaethau gwasanaethau democrataidd y Cyngor. Mae'n cyflwyno adroddiadau, o leiaf unwaith y flwyddyn, i'r Cyngor llawn mewn perthynas â'r materion hyn. Mae hefyd yn cyflawni swyddogaeth yr awdurdod lleol o ddynodi Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd
Pwyllgor Deddfau Trwyddedu a Gamblo
Mae'r pwyllgor hwn yn cynnwys 15 Cynghorydd ac mae'n ymdrin â materion o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005.
Pwyllgor Cofrestru a Thrwyddedu
Mae'r pwyllgor hwn yn cynnwys 15 Cynghorydd ac mae'n ymdrin â materion trwyddedu nad ydynt yn gyfrifoldeb i'r Pwyllgor Deddfau Trwyddedu a Gamblo na'i Is-bwyllgor.
Is-bwyllgor Deddfau Trwyddedu a Gamblo
Mae'r Is-bwyllgor hwn yn cynnwys tri Chynghorydd o'r prif Bwyllgor Deddfau Trwyddedu a Gamblo ac mae'n cyfarfod er mwyn ystyried sylwadau ac adolygu ceisiadau ar gyfer rhai gweithgareddau trwyddedig rheoledig.
Pwyllgor Personél
Y Pwyllgor Personél sy'n pennu'r holl bolisïau sy'n ymwneud â chyflogaeth, telerau ac amodau, iechyd a lles. Mae'r Pwyllgor hwn yn cynnwys 12 Aelod sy'n pleidleisio a 6 Aelod di-bleidlais o'r Awdurdod.
Pwyllgor Cynllunio
Mae'r pwyllgor hwn sy'n cynnwys 12 Cynghorydd yn penderfynu ar rhai ceisiadau cynllunio a datblygu yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae gan aelodau o'r cyhoedd yr hawl i siarad yn ystod cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio, mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Sut y gallaf ofyn am gael siarad mewn Pwyllgor Cynllunio?
Pwyllgor Penodiadau Arbennig
Pwyllgor ad-hoc yw hwn sy'n delio â chyfweliadau ar gyfer Penaethiaid Gwasanaeth / Cyfarwyddwyr, pan fo angen.
Pwyllgor Safonau
Mae'r Pwyllgor Safonau yn cynnwys 2 gynghorydd, 4 aelod annibynnol ac 1 aelod o gyngor cymunedol. Rôl y Pwyllgor hwn yw hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel gan yr Aelodau ac Aelodau cyfetholedig yr Awdurdod a monitro gweithrediad Cod Ymddygiad yr Aelodau ledled yr Awdurdod. Mae'r pwyllgor hefyd yn derbyn Adroddiadau Ymchwilio Ombwdsmon Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru yn dilyn ymchwiliadau, neu ymchwiliadau rhannol, mewn perthynas â honiadau o dorri Cod Ymddygiad yr Aelodau.