Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Eglurhad y 'Weithrediaeth'/Byrddau Cabinet

Mae'r Bwrdd Gweithredol yn enw arall ar y 10 Aelod Cabinet o Gyngor Castell-nedd Port Talbot. Y Bwrdd Gweithredol sy'n gwneud y prif benderfyniadau ar gyfer y Cyngor. Weithiau bydd y penderfyniadau'n cael eu gwneud mewn cyfarfod o bob un o'r naw Gweithrediaeth (Cabinet) ac weithiau bydd y penderfyniadau'n cael eu gwneud gan ddau aelod o'r Weithrediaeth (Byrddau Cabinet). Mae 4 Bwrdd, gan gynnwys y Cabinet:

Cabinet

Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet

Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet

Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun

Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet

Oni bai bod rheswm da, megis diogelu hunaniaeth unigolyn, yna mae croeso i aelodau o'r cyhoedd fynychu cyfarfodydd y Cabinet a Byrddau'r Cabinet, ond ar hyn o bryd dim ond i arsylwi am nid ydynt yn gallu siarad yn y cyfarfodydd hyn. E-bostiwch democratic.services@npt.gov.uk am fwy o wybodaeth.