Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Canllaw i Gordaliadau

Beth yw gordaliad?

Gordelir budd-dal tai pan fyddwch yn derbyn budd-dal nad oes gennych hawl iddo. Er enghraifft, os na fyddwch yn adrodd am newid yn eich amgylchiadau i ni pan fydd yn digwydd, mae'n bosib y byddwn yn parhau i dalu gormod o fudd-dal i chi tan i ni gael gwybod am y newid.

Sut byddaf yn gwybod os wyf wedi derbyn gordaliad?

Byddwn yn ysgrifennu atoch i'ch hysbysu eich bod wedi cael eich gordalu. Yn y llythyr byddwch yn ei gael gennym, byddwn yn rhoi manylion llawn am y gordaliad. Byddwn yn dweud wrthych:

  • Y rheswm dros y gordaliad
  • Dyddiadau perthnasol y gordaliad
  • Faint yw'r gordaliad
  • Beth i'w wneud os byddwch yn anghytuno â'r gordaliad

Beth os nad wyf yn cytuno â'r gordaliad? 

Os byddwch yn anghytuno â'n penderfyniad eich bod wedi cael eich gordalu, mae gennych hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad. Mae'n rhaid i chi gyflwyno'ch apêl yn ysgrifenedig o fewn un mis ar ôl dyddiad y llythyr rydym yn ei anfon atoch.

 

Sut caiff y gordaliad ei adennill?

Os ydych yn dal i dderbyn budd-dal tai, byddwn yn adennill y gordaliad drwy leihau swm y budd-dal rydym yn ei roi i chi bob wythnos tan i'r gordaliad gael ei dalu'n ôl. Mae'r llywodraeth yn pennu swm y gallwn ostwng eich budd-dal ganddo, ac mae'n newid bob blwyddyn. Mae'r swm yn uwch os pennir bod eich gordaliad yn dwyllodrus. Bydd llythyr yn cael ei anfon atoch yn rhoi manylion am faint rydym am ei gael yn ôl.

Os nad ydych yn derbyn budd-dal tai bellach byddwn yn anfon anfoneb i chi ei thalu.

Os ydych yn denant preifat ac roeddem yn talu eich budd-dal i'ch landlord, mewn rhai amgylchiadau mae'n bosib y byddwn yn gofyn i'ch landlord ad-dalu'r gordaliad.

Os gordalwyd budd-dal treth y cyngor i chi, byddwn yn anfon bil treth y cyngor newydd a fydd yn cynnwys gordaliad y budd-dal treth y cyngor.

 

Sut gallaf dalu'r anfoneb rwyf wedi'i derbyn?

  • Drwy'r post - anfonwch eich siec, sy'n daladwy i CBS Castell-nedd Port Talbot, at:Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
    CBS Castell-nedd Port Talbot
    Canolfan Ddinesig
    Castell-nedd
    SA11 3QZ.

Ysgrifennwch eich rhif cyfeirnod ar gefn eich siec.

  • Swyddfeydd Post - Os ydych am dalu mewn swyddfa bost, ffoniwch y Tîm Gordaliadau ar  01639 686839 a fydd yn darparu cerdyn talu i chi y bydd angen i chi fynd ag ef i swyddfa'r post wrth wneud taliad.
  • Y Rhyngrwyd - os oes gennych gerdyn debyd, gallwch dalu ar-lein. Pan fyddwch yn talu, cofiwch gael eich bil wrth law oherwydd bydd angen eich cyfeirnod arnoch.
  • Dros y ffôn - Gallwch ddefnyddio'ch cerdyn debyd i dalu dros y ffôn 24 awr y dydd, 7 dydd yr wythnos ar y rhif canlynol - 0161 622 6919. Pan fyddwch yn talu, cofiwch gael eich bil wrth law oherwydd bydd angen eich cyfeirnod arnoch.
  • Drwy Archeb Sefydlog - Cysylltwch â'r Is-adran Gordaliadau ar 01639 686839 i gael ffurflen.
  • Drwy BACS - Gall cwmnïau a sefydliadau dalu drwy BACS. Cysylltwch â'r Is-adran Gordaliadau ar 01639 686839 i gael mwy o fanylion.

Beth os nad oes modd i mi ad-dalu'r gordaliad mewn un taliad?

Gallwn drefnu i chi ad-dalu'r gordaliad mewn rhandaliadau.

Os ydych am ddod i gytundeb, dylech benderfynu faint y gallwch ei dalu a'n ffonio ar 01639 686839 i drafod y cytundeb.

Gallwch ysgrifennu atom hefyd gyda'ch cynnig i ad-dalu. Os bydd eich cynnig yn rhesymol, gallai fod modd i ni gytuno ar yr ad-daliadau ar unwaith. Fodd bynnag, os na allwn gytuno, byddwn yn gofyn i chi gwblhau ffurflen incwm a gwariant er mwyn i ni benderfynu a allwn dderbyn eich cynnig.

 

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn ad-dalu'r gordaliad?

Os na fyddwch yn ad-dalu'r gordaliad, gallwn wneud cais i'r Llys Sirol am orchymyn yn eich erbyn. Bydd hwn yn caniatáu i ni:

  • Ddefnyddio gorchymyn atal cyflog.
  • Defnyddio beilïod i gasglu'r gordaliad.
  • Rhoi gorchymyn tâl ar eich tŷ.

Os bydd yn rhaid i ni wneud cais am Orchymyn Llys Sirol, byddwn yn ychwanegu'r costau hyn at eich gordaliad a bydd rhaid i chi dalu'r costau hyn yn ogystal â'r gordaliad gwreiddiol.

 

Rwy'n landlord ac rydych wedi talu gormod o fudd-dal i un o'm tenantiaid

Gallwn adennill y gordaliad drwy wneud diddymiad o unrhyw fudd-dal tai y mae gan eich tenant hawl iddo o hyd, hyd yn oed os ydym yn talu'r budd-dal hwnnw i chi'n uniongyrchol. Y tenant sy'n gyfrifol am dalu swm llawn y rhent i chi.

Os ydym wedi bod yn talu'r budd-dal i chi'n uniongyrchol ac mae budd-dal y tenant wedi dod i ben, fel arfer byddwn yn anfon anfoneb atoch am swm y gordaliad. Fodd bynnag, mewn amgylchiadau penodol gallwn adennill y gordaliad drwy wneud diddymiad o'r budd-dal tai rydym yn ei dalu i chi ar gyfer eich tenantiaid eraill.

Os ydym yn mynd i adennill gordaliad y budd-dal tai a dalwyd i chi, byddwn yn ysgrifennu atoch i'ch hysbysu am hyn