Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Taliadau Tai Dewisol

Mae Taliadau Tai Dewisol ar gael i hawlwyr y mae angen help ychwanegol arnynt â'u costau tai. Mae gan y cyngor swm cyfyngedig o arian ar gyfer y taliadau hyn, a gall roi taliadau i'r rhai â'r angen mwyaf yn unig.

Ydw i'n gymwys i wneud cais am daliad tai dewisol?

Rhaid bod gennych hawl i Fudd-dal Tai a'ch bod yn ei dderbyn, a rhaid bod diffyg rhwng swm y budd-dal sy'n cael ei dalu a'ch costau tai.

Sut rydw i'n gwneud cais am Daliad Tai Dewisol?

Mae ffurflen gais ar gael o'r Adran Budd-daliadau, gallwch hefyd lawrlwytho ffurflen.

Bydd angen i chi gynnwys manylion eich incwm a'ch gwariant ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall.

Pa bethau nad ydynt yn cael eu cynnwys gan daliad tai dewisol?

Ni ellir rhoi TTD ar gyfer y canlynol:

  • taliadau gwasanaeth neu gefnogaeth nad yw budd-dal tai yn eu cynnwys
  • ol-ddyledion rhent sy'n ddyledus
  • didyniadau o fudd-dal tai oherwydd unrhyw fudd-dal gan yr Adran gwaith a Phensiynau sy'n cael ei gymeradwyo.
  • pan gaiff eich taliadau budd-dal tai eu hatal
  • diffygion a achosir wrth i ni adennill gordaliad o'ch budd-dal tai parhaus.

Sut mae'r cyngor yn penderfynu a allaf gael taliad tai dewisol?

Edrychir ar y pethau canlynol wrth wneud penderfyniad:

  • y diffyg rhwng Budd-dal Tai a'r rhent sy'n ddyledus;
  • unrhyw gamau a gymerir gan yr hawliwr i leihau'r rhent sy'n ddyledus;
  • os oes gan aelod o'r cartref anabledd ac mae'r llety wedi'i addasu i ddiwallu ei anghenion;
  • amgylchiadau meddygol (h.y. afiechyd ac anableddau) yr hawliwr, ei bartner ac unrhyw bobl eraill sy'n byw yng nghartref yr hawliwr.
  • os yw'r hawliwr wedi symud i'r cyfeiriad er mwyn cynorthwyo â'r gofal;
  • incwm a gwariant yr hawliwr, ei bartner ac unrhyw bobl eraill sy'n byw yng nghartref yr hawliwr;
  • unrhyw gynilon neu gyfalaf sydd efallai ganddo;
  • lefel dyled yr hawliwr neu ei deulu;
  • natur eithriadol yr hawliwr ac amgylchiadau'r teulu;
  • os yw'r ymgeisydd yn darparu llety ar gyfer plant maeth;
  • caledi a ddioddefwyd gan yr hawliwr;
  • os yw'r unigolyn yn ffoi rhag cam-drin neu drais yn y cartref;
  • os yw plant yn agos at y terfynau oed y byddent yn gymwys i gael eu hystafell eu hunain;
  • yr effaith bosib ar y cyngor o beidio â rhoi dyfarniad o'r fath, e.e. y pwysau ar lety blaenoriaeth i'r digartref;
  • os bydd angen help i sicrhau llety newydd fforddiadwy e.e. rhent ymlaen llaw neu fond;
  • rhoddir ystyriaeth i fforddadwyedd tymor hir tenantiaeth.
  • unrhyw amgylchiadau arbennig eraill.

Os rwyf yn llwyddo i gael dyfarniad, pa mor hir fydd yn para?

Bydd hyd yr amser ar gyfer dyfarnu Taliad Tai Dewisol yn amrywio yn ôl eich anghenion a'ch amgylchiadau.

Bydd dyddiad dechrau dyfarniad fel arfer ar y dydd Llun ar ôl i'r cais am Daliad Tai Dewisol gael ei dderbyn, er ei fod yn bosib ôl-ddyddio dyfarniad.

Faint o arian gallaf ei hawlio?

Bydd yr Is-adran Budd-daliadau'n penderfynu faint i'w roi i chi yn seiliedig ar eich amgylchiadau. Uchafswm y dyfarniad wythnosol yw'r gwahaniaeth rhwng eich rhent cymwys a'ch hawliad budd-dal tai. Does dim cyfyngiad ar ddyfarniadau rhent ymlaen llaw/bond.

Sut caiff yr arian ei dalu?

Yn gyffredinol byddwch chi neu'ch landlord yn cael y Taliad Tai yn ôl Disgresiwn yn eich taliad budd-dal tai arferol.

Faint o amser bydd ei angen i brosesu fy nghais?

Byddwn yn dweud wrthych beth yw canlyniad eich cais o fewn 14 diwrnod o dderbyn yr holl wybodaeth sy'n ofynnol i wneud penderfyniad ynghylch eich cais cyn gynted ag y gallwn wedi hynny. Byddwn yn dweud wrthych faint o Daliad Tai Dewisol y byddwch yn ei gael, beth yw cyfnod y taliad a sut caiff ei dalu.

Beth os yw fy amgylchiadau'n newid ar ôl i Daliad Dewisol gael ei ddyfarnu i mi?

Mae'n rhaid i chi ddweud wrth yr Is-adran Budd-daliadau ar unwaith, yn ysgrifenedig, am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau. Gall eich hawliad am daliad tai dewisol gael ei adolygu yn dilyn hyn.

Os na chaiff Taliad Dewisol ei ddyfarnu i mi, beth gallaf ei wneud?

Gallwch wneud cais am adolygiad o'r penderfyniad i beidio â dyfarnu taliad. Bydd swyddog annibynnol yn ailystyried eich cais ac yn dweud wrthych am y canlyniad.