Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Enwi a rhifo strydoedd Nodiadau Cyfarwyddyd

Enwi strydoedd newydd

I wneud cais am enwau stryd newydd, danfonwch ffurflen gais atom, ynghyd â chynllun lleoliad a chynllun safle (os yw'n berthnasol). Anogir datblygwyr i awgrymu enwau stryd yn Gymraeg yn unol â Hysbysiad Cydymffurfiaeth – Adran 44 Mesur Iaith Gymraeg (Cymru) 2011.  Caiff unrhyw enwau stryd Saesneg a dderbynnir eu cofrestru'n ddwyieithog. Mae pob cynnig yn destun cymeradwyaeth gan y cyngor.

Ni chodir tâl am y gwasanaeth hwn.

Tai wedi'u henwi (dim rhif post wedi'i ddyrannu)

Os oes enw gan eich eiddo yn lle rhif post, a'ch bod yn dymuno newid yr enw, rhaid i chi gael cymeradwyaeth. Mae hyn i gynnal cronfa ddata gyfeiriadau'r cyngor (sef y Rhestr Tir ac Eiddo Lleol (LLPG)) ac i sicrhau y dilynir yr arweiniad wrth enwi strydoedd. Bydd hyn hefyd yn sicrhau nad yw'r un enw ar eiddo yn yr un ardal, er mwyn osgoi dryswch i'r gwasanaethau brys a'r Post Brenhinol.

Tai gyda rhifau post ac enwau

Os oes gan eich eiddo rif post a'ch bod am roi enw arno hefyd, does dim rhaid i chi gael cymeradwyaeth. Mae amnewid rhif post am enw yn peri dryswch i gludwyr nwyddau ac i'r gwasanaethau argyfwng, felly nid yw'n fuddiol.

Gallwch arddangos yr enw ar eich eiddo a'i ddefnyddio gyda'r rhif post yn y cyfeiriad, ond bydd eich eiddo bob amser yn cael ei adnabod gan y rhif.

Dyrannu cyfeiriadau post newydd a strydoedd newydd

Wedi i gyfeiriad post neu enw stryd newydd gael ei ddyrannu, byddwn yn cysylltu â'r Post Brenhinol, sy'n gyfrifol am ddyrannu codau post. Ni fydd y Post Brenhinol yn dyrannu cod post tan eu bod wedi derbyn hysbysiad ffurfiol gennym ni am enw stryd neu gyfeiriad newydd.

Wedi derbyn y cod post, byddwn wedyn yn hysbysu'r datblygwr neu'r preswyliwr fel y bo'n briodol. Byddwn hefyd yn hysbysu pobl eraill â diddordeb am y cyfeiriad neu'r enw stryd newydd. Mae'r rhain yn cynnwys y gwasanaethau brys, adrannau'r cyngor a sefydliadau eraill.

Ailenwi/ailrifo strydoedd

Ar adegau prin, gall fod rhaid ailenwi neu ailrifo stryd. Fel arfer, y dewis olaf fydd hwn, yn yr achosion canlynol:

  • mae dryswch am enw a/neu rifau stryd
  • mae grŵp o breswylwyr yn anhapus gydag enw eu stryd
  • adeiladir eiddo newydd ar stryd ac mae rhaid i gartrefi eraill gael eu hailrifo i gynnwys yr eiddo newydd
  • ystyrir bod nifer yr eiddo ag enw yn unig mewn stryd yn peri dryswch i ymwelwyr, gwasanaethau cludo nwyddau neu'r gwasanaethau argyfwng

Cysylltir â phreswylwyr sydd eisoes yn byw yno ac ystyrir eu barn. Byddwn hefyd yn ymgynghori â'r Post Brenhinol i glywed eu safbwynt am y mater. Er mwyn newid enw stryd, byddwn yn cynnal pleidlais ymhlith preswylwyr lleol am y mater. Gobeithio y ceir cefnogaeth 100%, ond rhaid cael mwyafrif o ddau draean o leiaf i newid.

Codau post

Nid yw'r cyngor yn gyfrifol am ddyrannu codau post. Swyddogaeth y Post Brenhinol yw hon. Gall y Post Brenhinol ateb unrhyw ymholiadau am godau post felly ffoniwch 08456 056 060 (Ymholiadau Codau Post), neu ewch i'w gwefan.