Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd
Mae'n rhaid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn ei rôl newydd fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (ALlLlA) sicrhau bod Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol (y Strategaeth) yn cael ei llunio ar gyfer yr ardal.
Mae'r strategaeth yn nodi'r perygl o lifogydd lleol sylweddol ar gyfer yr ardal, gan ganolbwyntio'n bennaf ar lifogydd o ddŵr wyneb, dŵr daear a chyrsiau dŵr cyffredin, ac yn helpu pawb yr effeithir arnynt i ddeall ac i reoli perygl llifogydd. Mae hefyd yn ystyried y cyswllt sylweddol â phrif afonydd a charthffosydd.
Mae'n rhaid i'r strategaeth fod yn gyson â'r hyn a nodir yn Neddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 a'r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru.
Prif nod y strategaeth yw lleihau'r perygl o lifogydd a'r difrod cymdeithasol ac economaidd a achosir gan lifogydd, a hynny mewn modd cynaliadwy. Mae'r strategaeth yn amlinellu'r ddeddfwriaeth sy'n ymdrin â pherygl llifogydd, natur perygl llifogydd, amcanion rheoli perygl llifogydd a'r amrywiaeth o gamau gweithredu y gellir ymgymryd â hwy. Bydd hefyd yn ystyried pa arian sydd ar gael a sut gellid defnyddio rheoli perygl llifogydd er mwyn sicrhau bod yr arian hyn yn delio'n ddigonol â pheryglon llifogydd presennol ac yn y dyfodol.