Ymchwilio i Lifogydd
Fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (ALlLlA) ar gyfer Castell-nedd Port Talbot, un o'n cyfrifoldebau newydd yw dyletswydd i ymchwilio i lifogydd sy'n digwydd yn y fwrdeistref fel yr ystyriwn ei bod hi'n angenrheidiol.
- Wrth ddod i wybod am lifogydd yn ei ardal, mae'n rhaid i awdurdod llifogydd lleol arweiniol, i'r graddau y mae'n ystyried ei bod hi'n angenrheidiol neu briodol, ymchwilio i:
- ba awdurdodau rheoli perygl sydd â'r swyddogaethau rheoli llifogydd perthnasol
- a yw pob un o'r awdurdodau rheoli perygl hynny wedi arfer y swyddogaethau hynny, neu'n bwriadu eu harfer, mewn ymateb i'r llifogydd.
- Lle bydd awdurdod yn cynnal ymchwiliad dan is-adran (1), rhaid iddo:
- gyhoeddi canlyniadau ei ymchwiliad, a
- hysbysu unrhyw awdurdodau rheoli perygl.
Penderfynir ar yr angen i ymchwilio i lifogydd penodol fesul achos, gan ystyried ffactorau megis nifer yr eiddo yr effeithiwyd arnynt a ffynhonnell debygol y llifogydd.
Yn gyffredinol, bydd yr adroddiadau hyn yn cynnwys y canlynol:
- Gwybodaeth gefndir am y lleoliad
- Crynodeb o'r glawiad
- Gwybodaeth am hyd a lled y llifogydd
- Canfyddiadau ymchwiliad
- Syniad o rolau a chyfrifoldebau pob awdurdod rheoli perygl a'r camau gweithredu a gymerir neu a gynigir gan yr awdurdodau rheoli perygl hynny.
- Argymhellion a geir o'r ymchwiliad
Bydd canlyniadau unrhyw ymchwiliadau i lifogydd a gynhelir gennym yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen hon.
Adroddiad
- Medi 2016 Heol y Farteg Ystalyfera (DOCX 6.57 MB)
- Adroddiad ynghylch Ymchwiliad i’r Achos o Lifogydd ar 13 Hydref 2018 Ochr y Gamlas, Aberdulais (PDF 2.95 MB)
- 16 Chwefror 2020 - Ymchiliad i'r achos llifogydd Ochor y Gamlas, Aberdulais (PDF 3.61 MB)
- EPPT01 Ochor Camlas Protocol llifogydd V11.0 DIWYGIEDIG (PDF 1.16 MB)
- Adroddiad Ymchwilio i Lifogydd Digwyddiad 16 Chwefror 2020 Heol y Farteg, Ystalyfera
- Diweddariad i breswylwyr a gweithredwyr busnes yn ardal Ochr y Gamlas a'r cyffiniau yn dilyn Storm Dennis a'r llifogydd cysylltiedig