Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr

Asesiad Risg Llifogydd Rhagarweiniol

Ar 22 Rhagfyr 2011, cyflwynwyd Asesiadau Risg Llifogydd Rhagarweiniol (PFRA) i'r cyhoedd drwy borth gwefan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru. Am y tro cyntaf, mae asesiad o risg llifogydd lleol wedi'i lunio gan 174 o Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol (LLFA) yng Nghymru a Lloegr. Maent yn cyflawni gofynion statudol dan Gyfarwyddeb Llifogydd yr UE, a roddir ar waith yng Nghymru a Lloegr o dan Reoliadau Perygl Llifogydd 2009 (y Rheoliadau). Cânt eu defnyddio i wneud penderfyniadau a galluogi camau gweithredu a dargedir gan awdurdodau lleol.

Beth yw PFRA?

Asesiad manwl o berygl llifogydd lleol yw PFRA, sy'n cynnwys casglu ac adrodd ar wybodaeth am lifogydd yn y gorffennol (hanesyddol) ac yn y dyfodol (posib) i nodi lle gall y perygl o lifogydd fod yn broblem mewn ardal LLFA. Yn ogystal, defnyddir gwybodaeth yn y PFRA i gadarnhau Ardaloedd Risg Llifogydd - ardaloedd lle mae perygl llifogydd yn broblem sylweddol ac mae camau nesaf Cyfarwyddeb Llifogydd yr UE yn berthnasol.

Mae PFRA yn cynnwys ffynonellau lleol o risg llifogydd yn unig h.y. llifogydd o gyrsiau dŵr arferol (afonydd bychain, nentydd a dyfrffosydd), dŵr ffo a dŵr daear. Nid ydynt yn cynnwys risg llifogydd o brif afonydd, y môr a chronfeydd dŵr, oherwydd mai cyfrifoldeb Asiantaeth yr Amgylchedd yw’r ffynonellau llifogydd hyn. Fodd bynnag, maent yn ystyried rhyngweithio â'r holl ffynonellau posib o lifogydd lle y bo'n briodol.

Pam mae PFRA yn bwysig?

Mae PFRA yn darparu asesiad cynhwysfawr o risg llifogydd o ffynonellau lleol ledled Cymru a Lloegr am y tro cyntaf. Cânt hefyd eu defnyddio i ddarparu sylfaen dystiolaeth ar gyfer LLFA i ddatblygu eu strategaethau rheoli risg llifogydd lleol y mae eu hangen o dan y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr.

Pwy sydd wedi bod yn rhan o lunio PFRA?

LLFA oedd yn gyfrifol am ddatblygu PFRA. Mae'r cyfrifoldebau o dan y Rheoliadau'n gyson â'r Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr, sy'n rhoi rôl i awdurdodau lleol gydlynu rheoli ffynonellau lleol o beryg llifogydd.

Sut nodwyd Ardaloedd Risg Llifogydd?

Cyflwynodd Defra a Llywodraeth Cymru arweiniad ar ddull ar gyfer dewis ac adolygu Ardaloedd Perygl Llifogydd a oedd yn cynnwys gosod meini prawf a throthwyon. Penderfynodd y Gweinidogion ar y trothwyon.
Mae deg Ardal Risg Llifogydd dangosol yn Lloegr sy'n cynnwys oddeutu traean o'r eiddo mewn perygl o lifogydd dŵr arwynebol gydag wyth yng Nghymru sy'n cynnwys oddeutu 40 y cant o eiddo mewn perygl o lifogydd dŵr wyneb yng Nghymru.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar gyfer LLFA mewn ArdaloeddRisg Llifogydd, bydd mapiau risg yn cael eu paratoi a'u cyflwyno i Asiantaeth yr Amgylchedd erbyn mis Mehefin 2013 gyda chynlluniau rheoli risg llifogydd erbyn mis Mehefin 2015.

Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, a'i phartneriaid LLFA, mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cytuno i lunio mapiau risg dŵr wyneb i fodloni gofynion y Rheoliadau ar gyfer Cymru gyfan.

Ar gyfer LLFA nad ydynt mewn Ardal Risg Llifogydd, nid oes mwy o allbynnau statudol gofynnol o dan y Rheoliadau nes i'r cylch nesaf ddechrau yn 2016. Bydd LLFA serch hynny'n nodi yn eu strategaeth rheoli risg llifogydd lleol sy'n ofynnol o dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr, sut maent yn bwriadu rheoli risg llifogydd a nodwyd gan eu PFRA.