Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Amddiffynfeydd Rhag Llifogydd ac Arfordirol

Targedau Lefel Uchel Asiantaeth yr Amgylchedd Datganiad Polisi ynglyn ag Amddiffynfeydd rhag Llifogydd ac Arfordirol. Wedi’i gymeradwyo gan y Cabinet ar 9 Hydref 2002.

  • Mae’r Llywodraeth, trwy Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) ac wedyn trwy Llywodraeth Cymru, wedi llunio cyfres o Dargedau Lefel Uchel y mae'n rhaid i Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Awdurdodau Draenio ac Amddiffyn Arfordirol eu cyflawni er mwyn rheoli a lleihau’r risg i bobl ac eiddo rhag llifogydd.
  • Un o’r Targedau Lefel Uchel sylfaenol yw bod pob Awdurdod yn darparu Datganiad Polisiy gall y cyhoedd gael mynediad iddo, sy’n amlinellu cynlluniau o ran cyflawni nodau ac amcanion y Llywodraeth ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd ac arfordirol. Lluniwyd y Datganiad Polisi hwn yn unol â chanllawiau a phatrymlun safonol y Llywodraeth
  • Mae dyletswydd gofal ar y Cyngor i gyflawni gwaith cynnal a chadw sylfaenol ar ei asedau er mwyn atal neu leddfu’r risg o lifogydd i bobl ac eiddo. Mae’r Polisi hwn yn egluro safiad swyddogol y Cyngor o ran ymgymryd â gwaith draenio tir ar gyrsiau dŵr cyffredin sydd mewn perchnogaeth breifat, h.y. nid oes gan y Cyngor yr adnoddau i gyflawni gwaith o’r fath oni cheir cyllid ar ei gyfer gan Gronfeydd Cyfalaf y Cyngor trwy’r gyfres flynyddol o gynigion. Felly, polisi gorfodi yw hwn lle caiff rhybuddion eu cyflwyno dan Ddeddf Draenio Tir 1991. Rhaid gwneud y safiad hwn yn glir i’r cyhoedd. Yn ogystal, bydd y Polisi arfaethedig yn amlygu safiad y Cyngor o ran cynnal a chadw ei asedau, ynghyd â materion amddiffyn yr arfordir, ac agweddau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â draenio tir ac amddiffyn yr arfordir.