Mae Clwb Archeolegwyr Ifanc CNPT wedi'i leoli yn Llyfrgell Castell-nedd ac mae'n agored i bawb 8–16 oed.
Mae'r clwb yn cyfarfod â rhwydwaith Cyngor Archaeoleg Prydain unwaith y mis, fel arfer ar yr ail ddydd Sadwrn, rhwng 1pm a 3pm.
Mae'r sesiynau'n rhad ac am ddim i aelodau ond mae angen trefnu lle ymlaen llaw.
Yr hyn a wnawn
Mae’r clwb yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddarganfod sut y gall archaeoleg ein helpu i ddysgu am ein cyndeidiau trwy:
- ymweld â safleoedd ac adeiladau hanesyddol lleol
- archwilio arteffactau go iawn
- ymchwilio archaeoleg gydag arbenigwyr
- darganfod sut y cafodd pethau eu gwneud drwy weithgareddau crefft arbrofol
- defnyddio technoleg fodern i ail-greu'r gorffennol
Mae'r sesiynau blaenorol wedi cynnwys:
- taith dywys o amgylch siambr gladdu Parc le Breos
- ogof dwll cath cyn-hanesyddol
- naddu fflint a cherfio cyrn carw gydag archeolegydd arbrofol
- technegau cofnodi archaeoleg tirwedd
- gwaith cloddio ymarferol mewn safle treftadaeth leol
- ymweliadau gan Amgueddfa Archaeoleg Llundain
Manteision
Mae’r clwb yn darparu cyfleoedd i ddarpar archaeolegwyr i:
- cwrdd ag archeolegwyr go iawn
- dysgu sgiliau newydd
- gwneud ffrindiau newydd
- mwynhau gweithgareddau amrywiol
- datblygu hyder
- dysgu mwy am eu hynafiaid
- ymgysylltu â'u hardal leol
Os hoffech chi ymwneud ag CAI CNPT, dod yn aelod neu ddarganfod mwy am y clwb, cysylltwch â: