Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dosbarthu

Mae’r Gwasanaeth Llyfrgell ac Adnoddau Addysg (ELRS) yn gweithredu gwasanaeth dosbarthu a chasglu ledled Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot.

Ein blaenoriaeth yn ystod pythefnos olaf pob tymor yw casglu cynifer o lyfrau ac eitemau amgueddfa â phosibl. Bydd rota casglu ar waith gennym a byddwn yn ceisio casglu gan ein benthycwyr mawr. Anfonir llythyrau at yr holl ysgolion ar y rota gyda manylion y dyddiad a’r amser casglu.

Y tu allan i’r cyfnodau prysur, mae ein fan ar gael i ysgolion i gynorthwyo wrth symud deunyddiau a chyfarpar. Ar gyfer eitemau mawr, trwm neu drwsgl, nodwch y gall fod angen i rywun helpu’r gyrrwr i lwytho a dadlwytho’r fan ar ddau ben y daith.