Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Clwb Ffotograffiaeth ar ôl Ysgol

Trosolwg:

Rhaglen ar ôl ysgol sy’n para 6 wythnos ac yn darparu dealltwriaeth sylfaenol o gamerâu modern a thechnegau ffotograffiaeth.

Nifer y cyfranogwyr:

6-8 o ddisgyblion ac 1-2 aelod o staff.

Amserlen:-

Wythnos 1:

  • Crynodeb o hanes ffotograffiaeth o’r Camera Obscura hyd at gamerâu ffilm mwy diweddar.
  • Golwg ymarferol ar gamerâu o’r cyfnod cyn-ddigidol.
  • Dealltwriaeth sylfaenol o weithrediad camera (caead/agorfa)

Wythnos 2:

  • Cwis sydyn am foddau camera.
  • Gofynnir i’r disgyblion gymryd hyd at 5 ffotograff â chamera cryno digidol. (10 munud)
  • Trafod techneg ffotograffiaeth y “rheol traeanau” a dadansoddi’r ffotograffau a dynnwyd yn gynharach.

Wythnosau 3-6:

  • Rhoddir sylw i’r pedwar arddull ffotograffiaeth sylfaenol (portread, gweithredol, tirlun a macro) gan ddefnyddio swyddogaethau gosod camerâu digidol. Bydd rhai o’r sesiynau hyn yn dibynnu ar y tywydd ac felly nid oes modd cynnig amserlen fanwl gywir ymlaen llaw.

    Arddulliau ffotograffig
    Portread: Portreadau o unigolion/grwpiau mewn sefyllfaoedd anffurfiol, mewn ystum benodol a/neu sefyllfaoedd â thema.
    Gweithredol: Ffotograffiaeth sy’n seiliedig ar symud, gan ganolbwyntio ar chwaraeon actif a symudiad.
    Tirlun: Tynnu lluniau o olygfeydd awyr agored o amgylch yr ysgol neu’r ardal leol.
    Macro: Lluniau agos o eitemau pob dydd, e.e. planhigion, anifeiliaid, pensiliau, dilewyr ac ati.

Am ragor o wybodaeth Cysylltwch â Ni