Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Llyfrgell Deganau

Mae’r llyfrgell deganau yn wasanaeth ar y cyd gan ELRS a Llyfrgelloedd Castell-nedd Port Talbot, ac mae ar gael i ysgolion a darparwyr gofal plant cofrestredig ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot – Cylchoedd Meithrin/Chwarae (Cymraeg a Saesneg), Grwpiau Rhieni a Phlant Bach, Clybiau ar ôl Ysgol, Gwarchodwyr Plant, Gofalwyr Maeth ac Asiantaethau Partner.

Nod y Llyfrgell Deganau yw darparu cyfleuster benthyg teganau am ddim er mwyn i blant gael chwarae sy’n llawn ysgogiad a fydd yn gwella pob agwedd ar eu datblygiad.

Gwerthusiad diweddar o’r gwasanaeth:

"...Mae’n rhaid i fi ganmol pa mor ddefnyddiol a hyblyg yw’r staff. Maen nhw’n llawn gwybodaeth, yn ystyriol a gellir siarad â nhw wrth gyflwyno gwasanaeth allweddol i wella cyfleoedd chwarae yng Nghastell-nedd Port Talbot"

Sawl tegan y gallaf fenthyg?

Gall grwpiau chwarae, grwpiau rhieni a phlant bach a chlybiau y tu allan i oriau ysgol fenthyg 4 tegan. Gall gwarchodwyr plant fenthyg 2 degan. Ond, gellir benthyg mwy o deganau yn ôl disgresiwn staff y Llyfrgell Deganau.