Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Beth gallaf ei fenthyg?

Gall athrawon Cyfwerth ag Amser Llawn (CALl) mewn ysgolion sydd â Chytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) gyda’r Gwasanaeth gael benthyg yr adnoddau canlynol:

  • 1 Prosiect fesul athro CALl fesul tymor (mwyafswm o 30 o eitemau)
  • 4 eitem amgueddfa (realia) fesul athro CALl am hyd at 4 wythnos
  • 4 Fideo/Casét/DVD fesul athro CALl am hyd at bythefnos

Yn ogystal, bydd modd i ysgolion gael benthyg llyfrgell ffuglen am flwyddyn.

Bydd ceisiadau am adnoddau’n cael eu paratoi gan ein staff profiadol a’u dosbarthu i’ch ysgol yn barod ar gyfer dechrau’r tymor*.

Bydd y Gwasanaeth yn prynu unrhyw ddeunydd priodol y bydd ysgolion yn gofyn amdanynt.

Os byddai’n well gennych ddewis eich adnoddau prosiect eich hun, beth am ddod draw i’n gweld ni?

*Ein nod yw bod yr holl geisiadau am brosiectau a ddaeth i law ar ddechrau’r tymor blaenorol yn cael eu dosbarthu yn ystod pythefnos cyntaf y tymor cyfredol. Fodd bynnag, i osgoi oedi diangen, ewch ati i gyflwyno eich ceisiadau am brosiectau cyn gynted â phosibl.