Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Casgliad Amgueddfa (Realia)

Gyda mwy na 1000 o eitemau i’w benthyg, mae gan y Gwasanaeth Llyfrgell ac Adnoddau Addysg gasgliad cynhwysfawr o arteffactau wedi’u categoreiddio o dan bedwar maes:

  • Gwyddoniaeth a’r Amgylchedd
  • Hanes
  • Celf a Cherddoriaeth
  • Crefydd

Mae’r holl eitemau ar gael ar fenthyciadau hanner tymor gydag uchafswm o bedair eitem fesul athro. Gan fod cymaint o alw amdanynt, fe’ch cynghorir i archebu eitemau o leiaf un tymor ymlaen llaw.

Mae’r Gwasanaeth yn derbyn ceisiadau am brynu neu gomisiynu eitemau newydd. Cysylltwch â ni i roi gwybod beth hoffech chi ei gael.

Oes gennych chi eitemau amgueddfa neu arteffactau diddorol o dan glo yn y cwpwrdd?

Beth am sicrhau bod y rhain ar gael i ysgolion eraill eu rhannu? Hoffai’r Gwasanaeth Llyfrgell ac Adnoddau Addysg ddatblygu catalog o eitemau amgueddfa mewn ysgolion sydd ar gael ar gyfer benthyciadau rhwng ysgolion Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am hyn, cofiwch gysylltu â ni.