Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cwestiynau Cyffredin

Nid yw'r Gwasanaeth yn codi tâl am eitemau hwyr nac eitemau a gollir neu a ddifrodir.

Gorau po gyntaf! I sicrhau bod y Gwasanaeth yn gallu darparu detholiad priodol o adnoddau ar eich cyfer, fe’ch cynghorir i archebu mor fuan â phosibl.

Ydych. Fe gewch chi gyflwyno archeb fwy nag un tymor ymlaen llaw. Fe gewch hefyd gyflwyno archebion ar gyfer nifer o dymhorau.

Edrychwch ar ein hadran Beth gallaf ei Fenthyg?  Bydd ysgolion sy’n wynebu Arolwg yn cael benthyg mwy na’r dyraniad arferol.

Os cyflwynwch eich archeb ar ddechrau’r tymor blaenorol, rydyn ni’n gwarantu y bydd eich archeb yn cael ei dosbarthu ym mhythefnos cyntaf y tymor newydd.

Os byddwch am dderbyn eich archeb ar ddechrau’r tymor, yna bydd angen i chi gyflwyno’ch archeb ar ddechrau’r tymor blaenorol.

Bydd eitemau sydd heb eu dychwelyd i’r Gwasanaeth yn cael eu marcio’n awtomatig fel rhai coll. Ni chodir tâl am eitemau coll oni bai bod Amod Benthyca Arbennig ynghlwm wrth yr eitem.

Bydd amodau benthyca ynghlwm wrth rai adnoddau. Eitemau sydd ar fenthyciad amodol i’r Gwasanaeth yw’r rhain fel arfer, lle mae rhoddwr y benthyciad wedi cymhwyso Amodau Benthyca Arbennig. Os bydd un o’r eitemau hyn yn cael ei cholli neu ei difrodi yna mae’n bosibl y codir tâl amdani fel rhan o’r Amod Benthyca Arbennig.

Cyn belled â bod yr adnoddau ar gael i’w prynu gan ein cyflenwyr, ein nod yw prosesu eitemau adnodd sengl cyn pen wythnos a phrosesu eitemau adnoddau lluosog cyn pen tair wythnos o’r dyddiad pan fydd yr eitemau’n cyrraedd y Gwasanaeth.

Gallwch archebu dros y ffôn, trwy ffacs a thrwy e-bost (edrychwch ar ein tudalen Cysylltu â Ni) neu archebu ar-lein gan ddefnyddio’r Ffurflen Archebu ar y wefan hon.

Rydyn ni’n ymdrechu i ddarparu’r adnoddau y gofynnir amdanynt, ond os bydd archebion yn hwyr yn cyrraedd, mae’n bosib na fydd gennym ddigon o adnoddau addas ar ôl i’w rhoi ar fenthyg. Mewn rhai meysydd topig, nid oes dim neu nemor ddim adnoddau ar gael a hyn a hyn ohonynt fydd gan ein cyflenwyr o bosib.

Cewch. Mae ein drysau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener ar hyd y tymor a’r gwyliau (ac eithrio ar Wyliau Cyhoeddus). Cofiwch ganiatáu digon o amser i chi ddewis eich adnoddau ac i’n staff ni eu prosesu.

Byddwn. Rydyn ni’n cynnig gwasanaeth dosbarthu a chasglu ar gyfer ein holl gwsmeriaid. Ar ddiwedd pob tymor, bydd amserlen gwasanaeth ar waith gennym a’n nod yw casglu adnoddau gan ein benthycwyr mwyaf. Gan taw hyn a hyn o amser sydd ar gael, mae’n bosibl na fyddwn yn gallu casglu eich adnoddau ar yr adeg hon ond byddwn yn anelu i’w casglu ar ddechrau’r tymor nesaf.

Ydych. Fodd bynnag, gall fod rhestr aros ar gyfer rhai adnoddau (e.e. Eitemau Amgueddfa) ac mae’n bosib na fydd modd eu hadnewyddu bryd hynny.

Os byddwch chi’n archebu trwy ffacs neu’r Ffurflen Archebu ar-lein, byddwch mor fanwl a phenodol â phosibl yn eich cais. Byddai ychwanegu eich enw llawn, eich ysgol a’ch manylion cyswllt o gymorth mawr i ni pan fyddwn yn prosesu eich archeb.

Rydyn ni’n rhoi benthyg pecynnau grŵp darllen, ond ni allwn ddarparu pecyn dosbarth o deitlau unigol.