Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Safleoedd arbennig

Mae CNPT yn lwcus bod ganddi gynifer o safleoedd arbennig. Mae'r rhai pwysicaf yn ddynodedig o dan y gyfraith. I weld beth sydd yn eich ardal, edrychwch ar fap safleoedd a warchodir Cyfoeth Naturiol Cymru.

Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA)

Rhwydwaith o safleoedd ar draws Ewrop a warchodir dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd yr Undeb Ewropeaidd.

RAMSAR

Gwlyptiroedd a warchodir dan gytundeb rhyngwladol a lofnodwyd yn Ramsar, Iran, ym 1971. Mae Cors Crymlyn yn RAMSAR, yn ACA, yn SoDdGA ac yn GNG.

Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)

Dynodir y rhain gan Cyfoeth Naturiol Cymru o dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad.

Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG)

Yr enghreifftiau cenedlaethol gorau o gynefinoedd, daeareg a bywyd gwyllt. Fe'u rheolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac maent ar agor i ymwelwyr.

Gwarchodfeydd Natur Lleol (GNLl)

Safleoedd sy'n cynnig cyfleoedd i astudio a mwynhau byd natur. Fe'u rheolir gan CBSCNPT.

Mae gennym 5 GNLl ar hyn o bryd:

Cwm Cryddan
Ffen Pant-y-Sais
Camlas Tawe
Dyffryn Cwm Du & Planhigfa Glanrhyd
Tomen y Bryn

​Ydych chi erioed wedi bod i GNL Tomen Bryn? Mae’n werth ymweld â’r warchodfa natur, sy’n lle gwych ar gyfer natur ar gyrion pentref Bryn yng Nghastell-nedd Port Talbot, ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Ymunwch â ni ar daith rithwir o Domen Bryn i ddysgu mwy am y safle a pham ei fod mor arbennig:

Mae’r fideo hwn a’r gwaith a wnaed yn Nhomen Bryn eleni wedi bod yn bosib diolch i gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SBCN)

Dynodir y rhain gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol drwy'r Cynllun Datblygu Lleol. Gellir gweld pob safle sydd wedi'i ddynodi hyd yn hyn yng Nghanolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru (SEWBReC). Bydd pob cynefin a rhywogaeth cymwys yn cael ei ystyried yn yr un modd â'r rhai sydd eisoes wedi'u nodi, yn unol ag Arweiniad Bywyd Gwyllt Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru, gyda diwygiadau lleol yn cael eu nodi yn y Canllawiau Cynllunio Atodol ar Fioamrywiaeth a gyhoeddir yn 2017. Bydd rhestr o'r safleoedd a gedwir gan SEWBReC yn cael ei diweddaru wrth i safleoedd cymwys ychwanegol gael eu nodi, a bydd y rhai nad ydynt yn bodloni'r meini prawf mwyach yn cael eu diddymu.

Am fwy o wybodaeth am ddeddfwriaeth, gweler ein tudalen Y Gyfraith a Chyngor.