Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Caru Gwenyn CNPT

Yng Nghastell-nedd Port Talbot rydym yn annog blodau gwyllt ar yr ymylon drwy newid y ffordd rydym yn rheoli'r glaswelltiroedd.

Mewn rhai mannau, rydym yn dodi'r peiriannau torri gwair i gadw dros fisoedd yr haf er mwyn caniatáu i'r blodau dyfu. Yna byddwn yn defnyddio'r peiriannau torri a chasglu yn yr hydref i dorri a chasglu'r toriadau, gan gadw lefelau maeth y pridd yn isel.

Drwy annog blodau gwyllt i dyfu, rydym yn cefnogi peillwyr fel gwenyn ac ieir bach yr haf.

Mae rhai o’r safleoedd rhestredig ar ymylon ffyrdd a chylchfannau, ac ni ddylid ymweld â hwy oherwydd risg o niwed.

Mae’r safleoedd hyn yn cynnwys:

  • Mynedfa Coed Hirwaun
  • Llain Ganol yr A48, Margam
  • Ffordd Harbwr
  • Cylchfan Saltings
  • Cylchfan Ffordd Stratton
  • Cyfnewidfa Llandarcy, Pen-yr-Heol
  • A4109
  • Fabian Way
  • Ymyl Tegeirian Lawnt Fowlio'r Cymer

Yn absenoldeb unrhyw esgeuluster neu dor-dyletswydd gan y cyngor, rydych yn archwilio’r safleoedd hyn ar eich menter eich hun.

Rydyn ni’n gweithio gyda’r cynghorwyr yn eich ward i benderfynu ar y mannau mwyaf priodol lle gallwn ni roi rhwydd hynt i natur ffynnu yn eich ardal leol ac rydyn ni’n awyddus i glywed gan unrhyw gymuned leol ynghylch sut maen nhw’n meddwl y gallant ein helpu gyda’r dull gweithredu ecolegol hwn o reoli lleiniau ymyl ffordd yn eu hardal. Gofynnwn i chi roi gwybod i ni os hoffech wirfoddoli i’n helpu ni i ofalu am un o Leiniau Ymyl Ffordd arbennig Caru Gwenyn CNPT.

Cadwch lygad ar agor am arwyddion Caru Gwenyn CNPT ar draws y sir!

Cysylltwch â ni yn y cyfeiriad environment@npt.gov.uk – Pennawd y Neges ‘Caru Gwenyn CNPT