Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Partneriaeth Natur CNPT

Mae Partneriaeth Natur CNPT yn cynnwys cynrychiolwyr o amrywiaeth eang o sefydliadau ynghyd ag unigolion â diddordeb mewn bywyd gwyllt lleol a rheoli tir, a gall unrhyw un ymuno â hi. Mae'r Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt yn darparu'r ysgrifenyddiaeth a cheir cadeirydd annibynnol. Mae aelodau'r bartneriaeth yn gweithredu dros natur o gwmpas y sir, fel y canlynol:

  • Mae Gwirfoddolwyr Amgylchedd Afan yn rhedeg grwpiau gwaith i reoli dolydd yng Nghwm Afan.
  • Mae'r cyngor yn rheoli tri pharc lleol, pump gwarchodfa natur leol a llawer mwy o safleoedd ar gyfer natur.
  • Mae Grŵp Amgylchedd Bryncoch wedi bod yn cynnal patrolau llyffantod yn y gwanwyn am 15 mlynedd, gan achub dros 800 o lyffantod yn 2019.
  • Mae Buglife a Coed Cadw yn gweithio gyda'i gilydd i gadw'r Chwilen Ddaear Las yn Sgiwen.
  • Cynhelir y prosiect mawr Adfer Mawndiroedd, yn ein huwchdiroedd.

A llawer mwy!

Mae Partneriaeth Natur CNPT yn adolygu cyflwr natur yn CNPT ar hyn o bryd. Bydd yr adolygiad yn dylanwadu ar Gynllun Gweithredu Adferiad Natur CNPT, a gaiff ei gyhoeddi yn 2021.

Bydd Cynllun Gweithredu Adferiad Natur CNPT, drwy waith partneriaeth a'r broses gynllunio, yn addo gwarchod a gwella unrhyw rywogaeth neu gynefin yn CNPT sy'n:

Am ragor o wybodaeth am y rhywogaethau sydd ar gael yn CNPT, cysylltwch â Chanolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru.

Os ydych yn gweithredu dros natur ar hyn o bryd yn CNPT neu hoffech gael gwybod sut i wneud hynny, cysylltwch â chydlynydd y Bartneriaeth Natur Leol, Rose Revera r.revera@npt.gov.uk.

Ariennir swydd cydlynydd y Bartneriaeth Natur Leol gan brosiect PNL Cymru, prosiect 3 blynedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gydlynir gan CGGC. Ceir rhagor o wybodaeth yn lnp.cymru

Dolenni