Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Rheoleiddio

Mae'r math hwn o gais ar gyfer sefyllfa pan fyddwch wedi cyflawni gwaith heb gymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu.

Dylech nodi y gallai fod yn anodd gwerthu'r eiddo neu gael morgais newydd os ydych wedi cyflawni gwaith heb gael y gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu angenrheidiol yn gyntaf.

Os cwblhawyd y gwaith ar ôl 11 Tachwedd 1985, mae gweithdrefn y gallwch ei defnyddio i gael caniatâd ôl-weithredol.

Dylech gyflwyno dau gopi o gynlluniau sy'n dangos y gwaith cynt ac wedyn gyda manylion llawn am y gwaith adeiladu ynghyd â ffurflen gais rheoleiddio a'r ffî briodol.

Nid yw'r math hwn o ffî yn denu TAW ond mae'n 120% o'r ffî arferol (heb TAW) fel a nodwyd yn y tablau cyngor ar ffioedd.

Ar ôl i'ch cais gael ei dderbyn, bydd syrfëwr yn cysylltu â chi i drefnu ymweliad â'r adeilad i werthuso'r hyn a wnaed.

Os bydd angen gwaith adferol bydd hyn yn cael ei amlygu, ac ar ôl ei gywiro bydd tystysgrif reoleiddio'n cael ei chyflwyno.

Sut i wneud cais?

Yn syml, atodi ffurflen gais wedi'i llenwi, unrhyw gynlluniau, lluniadau, manylebau neu gyfrifiadau fel ffeil pdf i: building.control@npt.gov.uk. Rhowch fanylion cyswllt fel y gallwn drefnu i'r ffi sy'n ofynnol i gael eu talu, a pharhau â chofrestru a phrosesu eich cais.