Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cynlluniau Llawn

Dyma'r ffordd draddodiadol o hysbysu'r Awdurdod am y gwaith arfaethedig. Mae'n eich galluogi i gael cadarnhad bod y cynlluniau a'r manylebau arfaethedig yn cydymffurfio â gofynion y Rheoliadau ac ar yr un pryd, mae'n ein hysbysu ni am y gwaith.

Ar ôl gwirio, bydd unrhyw eitemau nad ydynt yn cydymffurfio, neu eitemau y mae angen eu hegluro, yn cael eu tynnu at sylw'r ymgeisydd neu'r asiant. Mae hyn yn caniatáu cyflwyno gwelliannau neu gynlluniau diwygiedig.

Yn ôl y Ddeddf Adeiladu, mae'n rhaid i ni wneud penderfyniad ynghylch y cais o fewn pum wythnos ar ôl iddo gael ei gyflwyno, neu ddau fis os yw'r ymgeisydd yn cytuno â hyn. Fodd bynnag, rhoddir penderfyniad o fewn amser byrrach fel arfer.

Os bydd materion nad ydynt yn cydymffurfio'n parhau, ac mae rhaid gwneud penderfyniad, mae'n bosib y bydd angen gwrthod y cais. Yn yr un modd, gellir cyflwyno cymeradwyaeth amodol, gan ofyn am wybodaeth bellach neu fynnu bod newidiadau penodol yn cael eu gwneud i'r cynlluniau a gyflwynwyd.

Yn y naill achos neu'r llall, canlyniad cyflwyno manylion diwygiedig sy'n datrys materion, boed hynny ar gyfer cais a wrthodwyd neu gais a gymeradwywyd gydag amodau, fydd cymeradwyaeth lawn heb godi unrhyw dâl ychwanegol ar yr ymgeisydd.

Wrth gwrs, os bydd y cynlluniau'n dangos nad oes angen egluro unrhyw eitemau, byddant yn cael eu cymeradwyo'n llawn yn ddi-gwestiwn.

O ran dechrau'r gwaith dan sylw, gallwch wneud hynny 2 ddiwrnod ar ôl cyflwyno'r cais. Fodd bynnag, rhaid cadw mewn cof bod cychwyn gwaith heb gael caniatâd yn gyntaf yn cynnwys risg. Os canfyddir wedyn bod gwaith yn groes i'r rheoliadau, gallai olygu addasu'r gwaith hwnnw.

Argymhellir felly nad yw gwaith yn cychwyn tan i gynlluniau gael eu cymeradwyo.

Sut i wneud cais?

Yn syml, atodi ffurflen gais wedi'i llenwi, unrhyw gynlluniau, lluniadau, manylebau neu gyfrifiadau fel ffeil pdf i: building.control@npt.gov.uk . Rhowch fanylion cyswllt fel y gallwn drefnu i'r ffi sy'n ofynnol i gael eu talu, a pharhau â chofrestru a phrosesu eich cais.