Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dolenni defnyddiol

Isod ceir sawl dolen ddefnyddiol i wefannau a allai fod o ddiddordeb, ynghyd â disgrifiadau o'r gwasanaethau a/neu'r wybodaeth sydd ganddynt.

GwerthwchiGymru

Gwasanaeth ar-lein AM DDIM sy'n hysbysebu cyfleoedd contract mewn sefydliadau sector cyhoeddus ledled Cymru, gan gynnwys awdurdodau lleol, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, colegau a phrifysgolion.

Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GCC)

Sefydlwyd Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GCC) Cymru i alluogi sector cyhoeddus Cymru i gydweithio'n agosach wrth gaffael nwyddau a gwasanaethau. Mae'r GCC yn dod â phŵer prynu gwerth dros £1bn y sector cyhoeddus ynghyd, sy'n cynrychioli rhwng 20% a 30% o wariant blynyddol Cymru mewn nwyddau a brynir yn gyffredin ac yn gyson.

CyfnewidCymru - e-dendro

Y porth diogel a ddefnyddir gan y cyngor i wneud ei e-dendro. Gellir cofrestru AM DDIM a gall defnyddwyr gael mynediad i brosesau e-dendro a ddefnyddir gan y cyngor ac amrywiaeth eang o sefydliadau eraill yn sector cyhoeddus Cymru.

Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU)

Atodiad penodol yn yr OJEU ar gyfer caffael cyhoeddus Ewropeaidd. Gellir cofrestru AM DDIM a gall defnyddwyr gael mynediad i'r holl hysbysiadau contract sy'n fwy na Throthwyon Caffael yr UE.

CBS Castell-nedd Port Talbot - Tîm Gwasanaethau Busnes

Mae'n cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol am ddelio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Cefnogaeth i Fusnesau - Llywodraeth Cymru

Gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth AM DDIM i fusnesau o bob math a maint yng Nghymru.