Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Polisi cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi

Cyflwyniad

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ("y cyngor") yn gwario dros £140 miliwn y flwyddyn bob blwyddyn ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith sy'n ymwneud â chadwyni cyflenwi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae'n hanfodol felly, ar bob cam, fod arferion cyflogaeth da ar waith sy'n gallu grymuso a gwobrwyo gweithwyr a helpu i wella ansawdd bywyd pobl yma yng Nghastell-nedd Port Talbot ac mewn mannau eraill. Bydd hyn yn ei dro'n arwain at nwyddau, gwasanaethau a gwaith o ansawdd gwell, a all fod o fantais i ardal Castell-nedd Port Talbot yn y pen draw.

Mae'r Polisi Cyflogaeth Foesegol yn dangos ein hymrwymiad parhaus i ddarparu gwasanaethau o safon sy'n diwallu anghenion a dyheadau dinasyddion Castell-nedd Port Talbot a sicrhau bod y rhai yn ein cadwyni cyflenwi'n cyfrannu at les ein preswylwyr a'r rheiny sy'n gweithio ac yn byw yng Nghymru a'r rhai sy'n gysylltiedig â'n cadwyni cyflenwi.

Wrth ddatblygu'r Polisi Cyflogaeth Foesegol hwn, rydym wedi ystyried gwybodaeth a gasglwyd o amrywiaeth o ffynonellau, ac rydym hefyd wedi adeiladu ar y gwaith a wnaed hyd yn hyn ym maes caffael corfforaethol i sicrhau y cynhelir ein prosesau caffael mewn modd tryloyw a chymesur a sicrhau cyfle cyfartal i bawb a chyda chymaint â phosib o gystadleuaeth.

Dechrau'r broses yw'r Polisi Cyflogaeth Foesegol, nid ei diwedd. Croesawn farn a sylwadau drwy gydol oes y Polisi Cyflogaeth Foesegol. Byddwn yn ystyried y rhain, ynghyd â'r rhai a dderbyniwyd drwy weithgareddau cynnwys eraill, wrth adolygu'r amcanion ac wrth adolygu'r Polisi Cyflogaeth Foesegol yn ffurfiol.

Fel hyrwyddwr Gwrthgaethwasiaeth a Chyflogaeth Foesegol y cyngor, rwy'n falch bod y polisi hwn yn nodi ymrwymiad y cyngor i sicrhau cadwyn gyflenwi fwy moesegol wrth ddarparu'n gwasanaethau. Fel cyngor, rydym yn gwbl ymrwymedig i les yr holl rai sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd, boed wedi'u cyflogi'n uniongyrchol neu drwy drefniadau contract. Bydd yr egwyddorion hyn yn cynorthwyo wrth sicrhau triniaeth deg i bawb sy'n ymwneud â'r gwaith anodd o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus da mewn cyfnod o gyni ariannol.

Y Cynghorydd Doreen Jones

Hyrwyddwr Gwrthgaethwasiaeth a Chyflogaeth Foesegol

Disgrifiad o'r Awdurdod

Mae Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ar yr arfordir rhwng Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr, ac mae'n cwmpasu dros 44,217 o hectarau. Yng nghyfrifiad 2011, roedd ganddi boblogaeth o 139,812 a 62,957 o anheddau. Mae hefyd yn rhannu ffin â Chyngor Sir Gâr, Cyngor Sir Powys, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Tâf. Mae'r prif ardaloedd trefol ym Mhort Talbot, Castell-nedd a Phontardawe. Mae ardaloedd y cymoedd yn cynnwys cymoedd Afan, Aman, Dulais, Nedd a Thawe gydag ardaloedd o ucheldir helaeth rhyngddynt. Mae'r cymoedd yn croestorri'r ardaloedd trefol ac fe'u diffinnir gan olygfeydd trawiadol a rhwydwaith o gymunedau clos

Mae gan Gastell-nedd Port Talbot yr 8fed dwysedd poblogaeth uchaf o'r 22 o awdurdodau lleol ledled Cymru. Mae 14 o ardaloedd yn y fwrdeistref sirol yn y 10% uchaf o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Disgwylir y bydd y boblogaeth yn cynyddu 7,000, cynnydd o oddeutu 5%, erbyn 2021. Er y disgwylir i'r boblogaeth dan 65 oed barhau'n sefydlog, mae'r cynnydd a ragwelir yn y boblogaeth dros 65 oed yn sylweddol.

Yn ôl cyfrifiad 2011, mae 2.1% o'r boblogaeth yn perthyn i grwpiau du a lleiafrifoedd ethnig, o'i gymharu â 4% yng Nghymru.

Mae data gan ysgolion yn nodi bod cyfran y disgyblion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig (Prydeinig, heb fod yn wyn) yn 4.6% o'i gymharu â chyfartaledd Cymru sef 8.2%.

Mae dau safle carafanau sipsiwn a theithwyr a awdurdodwyd yn y fwrdeistref sirol gyda phoblogaeth amcangyfrifedig o 236. Yng Nghyfrifiad 2011, o'r bobl hynny a nododd grefydd, ffydd neu gred, roedd 57.7% ohonynt yn disgrifio'u hunain yn Gristnogion, 33.8% yn nodi nad oedd ganddynt grefydd, 7.3% heb ateb y cwestiwn a'r gweddill yn Fwdaidd (0.2%), Hindŵaidd (0.1%), Iddewig (0%), Moslemaidd (0.4%), Sicaidd (0.1%), arall (0.4%).

Amcangyfrifir bod 41,828 o blant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed yn byw yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae mwy na 300 o blant ag anableddau'n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot ac mae 731 o blant â datganiad addysgol yn mynd i'n hysgolion.

Strwythur y Cyngor

Yng Nghastell-nedd Port Talbot ceir 42 o adrannau etholiadol gyda 64 o aelodau etholedig ac rydym yn gweithredu dull Cabinet o lywodraeth leol gydag Arweinydd a gefnogir gan 9 Aelod Cabinet (y Weithrediaeth). Ceir 5 Pwyllgor Craffu sy'n craffu ar berfformiad a phenderfyniadau'r Cabinet ac yn eu monitro. Maent hefyd yn llunio adroddiadau ac argymhellion sy'n cynghori'r Cabinet a'r cyngor cyfan am ei bolisïau, ei gyllideb a'r modd y mae'n cyflwyno gwasanaethau.

Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Chydraddoldeb yw'r deiliad portffolio ar gyfer y maes gwaith hwn.

Atgyfnerthir pwysigrwydd y polisi hwn gan y ffaith bod y polisïau a'r cynlluniau hyn ymysg y nifer cyfyngedig y mae'n ofynnol i Gabinet y cyngor eu cymeradwyo, sydd wrth gwrs bob amser yn destun craffu gan Bwyllgor Craffu'r Cabinet.

Mae grŵp o uwch-reolwyr sy'n cynnwys y Prif Weithredwr a Chyfarwyddwyr Corfforaethol yn goruchwylio rheolaeth strategol busnes y cyngor. Mae gan Benaethiaid Gwasanaeth gyfrifoldeb gweithredol unigol am wasanaethau yn ogystal â darparu cefnogaeth strategol i uwch-reolwyr.

Polisi Cyflogaeth Foesegol

Yr hyn sy'n ganolog i'r Polisi Cyflogaeth Foesegol yw ffocws ar sicrhau arferion cyflogaeth da ar gyfer y miliynau o weithwyr sy'n gysylltiedig â chadwyni cyflenwi'r sector cyhoeddus.

Disgwylir i holl sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru a busnesau a sefydliadau'r trydydd sector sy'n derbyn cyllid gan y sector cyhoeddus yng Nghymru ymrwymo i Gôd Ymarfer a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Anogir sefydliadau a busnesau eraill yng Nghymru i ymrwymo i'r côd hwn hefyd.

Mae'r Polisi Cyflogaeth Foesegol hwn yn cynnwys chwe phwnc allweddol sy'n cynnwys 12 ymrwymiad sy'n amrywio o arferion anghyfreithlon ac anfoesol i arfer da a gorau.

Y pwnc cyntaf yw Caethwasiaeth Modern, yr amcangyfrifir ei fod yn effeithio ar hanner can miliwn o bobl ledled y byd, gan gynnwys yng Nghymru a'r DU. Bydd y Polisi Cyflogaeth Foesegol yn galluogi staff i adnabod achosion ac ymdrin â honiadau a nodi ac asesu meysydd gwariant sydd mewn mwy o berygl o gaethwasiaeth modern a thorri hawliau dynol.

Yr ail faes yn y Polisi Cyflogaeth Foesegol yw cosbrestru, pan wahaniaethir yn erbyn gweithwyr os ydynt yn ymuno ag undeb neu'n mynegi pryderon iechyd a diogelwch. Mae'r Polisi Cyflogaeth Foesegol hwn yn cynnwys ymrwymiad i sicrhau nad yw cyflenwyr yn defnyddio cosbrestrau ac mae'n nodi sut i osgoi cwmnïau nad ydynt wedi cymryd y mater o ddifrif.

Mae'r tri maes nesaf yn ymwneud ag amodau a thelerau cyflogaeth, gan gynnwys contractau dim oriau, cynlluniau mantell a hunangyflogaeth ffug. Bydd y Polisi Cyflogaeth Foesegol yn helpu staff i wahaniaethu rhwng arferion teg ac annheg.

Mae'r maes olaf yn ymwneud â'r Cyflog Byw ac mae'n cynnwys ymrwymiad i ystyried talu o leiaf y cyflog byw i bob aelod o staff.

Yn ogystal â'r 12 ymrwymiad sy'n cynnwys y chwe phwnc allweddol y cyfeiriwyd atynt uchod, rhaid i'r cyngor gydymffurfio hefyd â'r ddyletswydd a gynhwysir yn Adran 26 Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 sy'n ymwneud â therfysgaeth ac eithafiaeth. Mae'r Polisi Cyflogaeth Foesegol hwn yn cynnwys ymrwymiad i sicrhau nad yw cyflenwyr yn defnyddio'u cadwyni cyflenwi i ariannu a/neu gefnogi terfysgaeth a/neu eithafiaeth.

Amcanion y Polisi Cyflogaeth Foesegol

Mae Llywodraeth Cymru'n nodi nifer o rwymedigaethau y mae'n disgwyl i'r sector cyhoeddus gydymffurfio â hwy.

Wrth adolygu'r amcanion hyn, rydym wedi ystyried y pwysau allanol amrywiol rydym yn parhau i'w profi, yr wybodaeth a dderbyniwyd o ganlyniad i siarad â rhanddeiliaid, yn gyffredinol ac yn benodol o ran yr amcanion, yn ogystal â gwaith a gynlluniwyd yn y meysydd gwasanaeth dros y blynyddoedd i ddod.

O ganlyniad, rydym wedi datblygu amcanion a fydd yn caniatáu i ni ganolbwyntio'n hegni ar y meysydd hynny sydd bwysicaf i bobl a hefyd y rhai lle rydym yn sicr y caiff canlyniadau mesuradwy eu cyflawni.

Yn ogystal, rydym wedi nodi dibenion tebyg ar draws ein cynlluniau allweddol ac o ganlyniad i hyn, rydym yn gweithio tuag at ddarparu darlun mwy cyflawn o'r hyn rydym am ei gyflawni'n unigol ac mewn partneriaeth.

Rydym yn ymwybodol, drwy wella gwasanaethau, ein bod yn galluogi pobl i gyflawni canlyniadau llwyddiannus yn eu bywydau eu hunain.

Nodir yr ymrwymiadau y bydd y cyngor yn glynu wrthynt drosodd. Atodiad 1 yw Cynllun Gweithredu'r cyngor i ddangos sut y rhoddir yr ymrwymiadau hyn ar waith a'u mesur yn y pen draw.

Dylid sylwi wrth lynu wrth yr ymrwymiadau hyn a'r egwyddorion a nodwyd yn y Cofnod Gweithredu na fydd gorfodi'r polisïau hyn ar ran trydydd partïon i'n trefniadau contract yn rhan o bolisi'r cyngor. Cânt eu defnyddio fel offeryn i gadarnhau bod ein contractwyr a'n cyflenwyr yn gweithio'n unol â'r egwyddorion a'r rhwymedigaethau cyfreithiol a nodwyd yn ein trefniadau contract yn unig, ac ystyrir hyn fel rhan o brosesau monitro contract arferol.

Ein Hymrwymiadau

Bydd y cyngor yn rhoi'r ymrwymiadau canlynol ar waith (o'r ddogfen Cod Ymarfer: Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi)

Ymrwymiad 1

Llunio polisi ysgrifenedig ar gyflogaeth foesegol yn ein sefydliad ninnau ac yn ein cadwyni cyflenwi. Wedi inni lunio’r polisi hwn, byddwn yn ei rannu ar draws ein sefydliad ac yn ei adolygu’n flynyddol a monitro pa mor effeithiol ydyw. Fel rhan o hyn, byddwn yn Penodi Hyrwyddwr Cyflogaeth Foesegol ac Atal Caethwasiaeth.

Ymrwymiad 2

Llunio polisi ysgrifenedig ar ddatgelu camarfer i rymuso staff i godi amheuon ynghylch arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac anfoesegol, ac sy’n gosod cyfrifoldeb ar staff i adrodd am weithgarwch troseddol sy’n cael ei gynnal yn ein sefydliad ein hunain ac yn ein cadwyni cyflenwi. Wedi i ni lunio’r polisi hwn, byddwn yn ei rannu ar draws ein sefydliad. Byddwn yn adolygu’r polisi yn flynyddol ac yn monitro pa mor effeithiol ydyw. Byddwn hefyd yn darparu dull i bobl o’r tu allan i’n sefydliad godi amheuon ynghylch arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac anfoesegol.

Ymrwymiad 3

Sicrhau bod pawb sy’n gysylltiedig â phrynu/ caffael a recriwtio a defnyddio gweithwyr yn cael hyfforddiant ar gaethwasiaeth fodern ac arferion cyflogaeth foesegol, a chadw cofnod o’r rhai sydd wedi cael hyfforddiant.

Ymrwymiad 4

Sicrhau bod arferion cyflogaeth yn cael eu hystyried fel rhan o’r broses gaffael. Byddwn yn:

  • Cynnwys copi o’n polisi ar gyflogaeth foesegol (Ymrwymiad 1) yn yr holl ddogfennaeth gaffael.
  • Cynnwys cwestiynau priodol ar gyflogaeth foesegol mewn gwybodaeth dendro ac asesu’r ymatebion a ddaw i law.
  • Lle y bo’n briodol, cynnwys elfennau o’r Côd fel amodau’r contract.
  • Bob tro y ceir dyfynbris neu dendr anarferol o isel, gofyn i ymgeiswyr esbonio’r effaith y gallai costau isel ei chael ar eu gweithwyr.

Ymrwymiad 5

Sicrhau nad yw’r ffordd yr ydym yn gweithio gyda’n cyflenwyr yn arwain at ddefnyddio arferion cyflogaeth anghyfreithlon neu anfoesegol yn y gadwyn gyflenwi. Byddwn yn:

  • Sicrhau nad oes pwysau diangen o ran costau ac amser yn cael eu gosod ar unrhyw un o’n cyflenwyr os yw hyn yn debygol o arwain at drin gweithwyr mewn modd anfoesegol.
  • Sicrhau bod ein cyflenwyr yn cael eu talu ar amser – cyn pen 30 diwrnod o dderbyn anfoneb ddilys.
  • Bob tro y ceir dyfynbris neu dendr anarferol o isel, gofyn i ymgeiswyr esbonio’r effaith y gallai costau isel ei chael ar eu gweithwyr. .

Ymrwymiad 6

Disgwyl i’n cyflenwyr ymrwymo i’r Polisi Cyflogaeth Foesegol hwn er mwyn helpu i sicrhau bod arferion cyflogaeth foesegol yn cael eu cynnal drwy’r gadwyn gyflenwi gyfan.

Ymrwymiad 7

Asesu ein gwariant i ddod o hyd i faterion caethwasiaeth fodern, torri hawliau dynol ac arferion cyflogaeth anfoesegol, ac ymdrin â hwy. Byddwn yn:

  • Cynnal adolygiadau rheolaidd o wariant a chynnal asesiad risg ar y canfyddiadau, i ddod o hyd i gynnyrch a/neu wasanaethau lle ceir risg o gaethwasiaeth fodern a/neu arferion cyflogaeth anghyfreithlon neu anfoesegol yn y DU a thramor.
  • Ymchwilio i arferion unrhyw gyflenwr sydd wedi’i nodi fel risg uchel, drwy ymgysylltu’n uniongyrchol â’r gweithwyr lle bynnag y bo hynny’n bosibl.
  • Gweithio gyda’n cyflenwyr i unioni unrhyw faterion yn gysylltiedig ag arferion cyflogaeth anghyfreithlon neu anfoesegol.
  • Monitro arferion cyflogaeth ein cyflenwyr risg uchel, gan wneud hyn yn eitem safonol ar yr agenda ar gyfer pob cyfarfod/adolygiad rheoli contractau.

Ymrwymiad 8

Sicrhau na fydd unrhyw arferion hunangyflogi ffug yn cael eu cynnal ac na fydd cynlluniau mantell a chontractau dim oriau yn cael eu defnyddio’n annheg neu fel modd o:

  • Osgoi, neu hwyluso osgoi, talu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol a’r isafswm cyflog perthnasol.
  • Rhoi gweithwyr dan anfantais yn ddiangen o ran hawliau tâl a chyflogaeth, sicrwydd swyddi a chyfleoedd gyrfa.
  • Osgoi cyfrifoldebau Iechyd a Diogelwch.

Ymrwymiad 9

Sicrhau bod gweithwyr yn rhydd i ymuno ag Undeb Llafur neu gydgytundeb ac i ymgymryd ag unrhyw weithgaredd cysylltiedig a chodi pryderon gweithwyr heb berygl y byddant yn wynebu unrhyw fath o wahaniaethu yn eu herbyn. Byddwn yn:

  • Peidio â defnyddio cosbrestri/rhestri gwaharddedig.
  • Sicrhau nad yw ein cyflenwyr yn defnyddio cosbrestri/rhestri gwaharddedig.
  • Peidio â llunio contract ag unrhyw gyflenwr sydd wedi defnyddio cosbrestr/rhestr waharddedig ac sydd wedi methu cymryd camau i unioni’r sefyllfa.
  • Disgwyl i’n cyflenwyr sicrhau bod cynrychiolwyr Undebau Llafur yn gallu cael mynediad at aelodau a gweithwyr contract.

Ymrwymiad 10

Ystyried talu Cyflog Byw y Sefydliad Cyflog Byw fel isafswm i bob aelod o staff ac annog ein cyflenwyr i wneud yr un fath. Byddwn yn:

  • Ystyried talu Cyflog Byw’r Sefydliad Cyflog Byw fel isafswm i’n holl staff yn y DU.
  • Ystyried cael ein hachredu fel Cyflogwr Cyflog Byw.
  • Annog ein cyflenwyr sydd wedi’u lleoli dramor i dalu cyflog teg i’w holl staff, a sicrhau bod staff sy’n gweithio yn y DU yn cael yr isafswm cyflog o leiaf.

Ymrwymiad 11

Llunio datganiad blynyddol ysgrifenedig yn amlinellu’r camau a gymerir yn ystod y flwyddyn ariannol, a’r camau gweithredu sy’n cael eu cynllunio, i sicrhau nad oes unrhyw achos o gaethwasiaeth na masnachu pobl yn unrhyw ran o’n sefydliad a’i gadwyni cyflenwi. Byddwn yn:

  • Sicrhau bod y datganiad yn cael ei lofnodi gan uwch-reolwr/aelod o’r bwrdd.
  • Cyhoeddi’r datganiad ar ein gwefan. Os nad yw hyn yn bosibl, byddwn yn darparu copi i unrhyw un cyn pen 30 o ddiwrnodau o dderbyn cais.

Ymrwymiad 12

Sicrhau bod y rheiny sy’n gwneud gwaith ar gontract allanol yn cael eu trin yn deg ac yn gyfartal. Byddwn yn:

  • Sicrhau bod staff y sector cyhoeddus sy’n cael eu trosglwyddo fel rhan o wasanaeth cyhoeddus sy’n cael ei drefnu’n allanol drwy drydydd parti yn cadw eu telerau ac amodau cyflogaeth.
  • Sicrhau bod aelodau eraill o staff sy’n gweithio ar wasanaeth cyhoeddus sy’n cael ei drefnu’n allanol yn cael eu cyflogi ar delerau ac amodau tebyg i’r staff sydd wedi eu trosglwyddo o’r sector cyhoeddus.

Ymrwymiad 13

Er mwyn sicrhau y cydymffurfir â'r ddyletswydd a gynhwysir yn Adran 26 Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015, bydd y cyngor yn sicrhau bod ei gyflenwyr yn cytuno i gydymffurfio ag unrhyw un o ofynion y cyngor fel y'u nodir yn Strategaeth ac Arweiniad Prevent ac Arweiniad Channel er mwyn sicrhau y rhoddir sylw priodol i'r angen i atal pobl rhag cael eu denu i derfysgaeth a/neu eithafiaeth.

Atodiad 1

Cynllun Gweithredu i Roi’r Polisi ar Waith

Ymrwymiad i'r Côd Ymarfer

Cam Gweithredu Angenrheidiol

Dyddiad Targed i'w Roi ar Waith

Sut byddwn yn mesur pob ymrwymiad

Swyddog Arweiniol

1.     Llunio polisi ysgrifenedig ar gyflogaeth foesegol yn ein sefydliad ninnau ac yn ein cadwyni cyflenwi. Wedi inni lunio’r polisi hwn, byddwn yn ei rannu ar draws ein sefydliad ac yn ei adolygu’n flynyddol a monitro pa mor effeithiol ydyw.  Fel rhan o hyn byddwn yn:

 

1.1.      Penodi Hyrwyddwr Gwrthgaethwasiaeth a Chyflogaeth Foesegol.

 

Bydd angen llunio Polisi Cyflogaeth Foesegol, sy'n sail ar gyfer y ddogfen hon.

 

 

 

1.1. Penodir Hyrwyddwr Gwrthgaethwasiaeth a Chyflogaeth Foesegol.

I'w gymeradwyo a'i roi ar waith erbyn mis Ionawr 2019

Bydd polisi'n cael ei lunio a'i ddosbarthu i bob aelod o staff, y caiff ei adolygu'n flynyddol.

 

1.1. Penodwyd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Chydraddoldeb yn Hyrwyddwr Gwrthgaethwasiaeth a Chyflogaeth Foesegol.

Pennaeth AD a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol

2.     Llunio polisi ysgrifenedig ar ddatgelu camarfer i rymuso staff i godi amheuon ynghylch arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac anfoesegol, ac sy’n gosod cyfrifoldeb ar staff i adrodd am weithgarwch troseddol sy’n cael ei gynnal yn ein sefydliad ein hunain ac yn ein cadwyni cyflenwi. Wedi i ni lunio’r polisi hwn, byddwn yn ei rannu ar draws ein sefydliad. Byddwn yn adolygu’r polisi yn flynyddol ac yn monitro pa mor effeithiol ydyw. Byddwn hefyd yn:

 

2.1.      Darparu dull i bobl y tu allan i'n sefydliad godi amheuon ynghylch arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac anfoesegol.

 

Polisi Datgelu Camarfer ar waith.

 

Cyflwyno’r Polisi Datgelu Camarfer bob blwyddyn

 

 

 

 

 

 

2.1 Bydd y Polisi Datgelu Camarfer yn addas i unigolion y tu allan i'r sefydliad godi amheuon ynghylch arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac anfoesegol

 

 

 

Cwblhawyd

 

 

Parhaus

 

 

 

 

 

 

 

 

2.1 Cwblhawyd

Bydd polisi'n cael ei lunio a'i ddosbarthu i bob aelod o staff a gaiff ei adolygu'n flynyddol, a nodir ystadegau ar y defnydd o'r polisi, yn unol â'r polisi.

Pennaeth AD/Pennaeth Cyllid a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol

3.     Sicrhau bod pawb sy’n gysylltiedig â phrynu/caffael a recriwtio a defnyddio gweithwyr yn cael hyfforddiant ar gaethwasiaeth fodern ac arferion cyflogaeth foesegol, a chadw cofnod o’r rhai sydd wedi cael hyfforddiant.

 

Darperir hyfforddiant ar gaethwasiaeth modern i holl weithwyr y cyngor fesul cam. Datblygwyd hyn o ganlyniad i Ddeddf Caethwasiaeth Modern 2015.

 

 

 

 

 

Sefydlwyd Grŵp Strategaeth Caffael i sicrhau arferion gweithio da ar draws y cyngor cyfan.

Parhaus

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

4.1 Parhaus. Cynhelir cyfarfod cyntaf y Grŵp Strategaeth Caffael ym mis Tachwedd 2018 

Cedwir cofnod o'r holl swyddogion sy'n rhan o'r prosesau caffael a gaiff ei ddiweddaru ar ôl cyflwyno'r hyfforddiant. Bydd yr holl swyddogion o'r fath yn cyflawni hyfforddiant cyn mis Ebrill 2019.

 

 

 

Lle nodir pryderon gan swyddogion, dosberthir nodiadau cyngor ar faterion  i bob aelod o staff fel eu bod yn ymwybodol o arferion gwaith da.

 

Darperir diweddariadau rheolaidd ar hyfforddiant i'r Grŵp Strategaeth Caffael er mwyn rhoi adborth i'r swyddogion angenrheidiol.

 

Pennaeth AD

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol

 

4.     Sicrhau bod arferion cyflogaeth yn cael eu hystyried fel rhan o’r broses gaffael. Byddwn yn:

 

4.1.      Cynnwys copi o’n polisi ar gyflogaeth foesegol (Ymrwymiad 1) yn yr holl ddogfennaeth gaffael.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

4.2.      Cynnwys cwestiynau priodol ar gyflogaeth foesegol mewn gwybodaeth dendro ac asesu’r ymatebion a ddaw i law.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

4.3.      Lle y bo’n briodol, cynnwys elfennau o’r Côd fel amodau’r contract.

 

 

 

 

4.4.      Bob tro y ceir dyfynbris neu dendr anarferol o isel, gofyn i ymgeiswyr esbonio’r effaith y gallai costau isel ei chael ar eu gweithwyr.

 

 

 

 

 

4.1 Cynhwysir cyfeiriad at holl bolisïau'r cyngor a'r gofyniad i gydymffurfio yn amodau'r contract a roddir mewn ymarfer caffael a gynhaliwyd gan yr Uned Gaffael Gorfforaethol. Unwaith y llunnir ac y cymeradwyir y Polisi Cyflogaeth Foesegol, caiff ei gynnwys yn amodau'r contract.

 

Mae Rheolau Gweithdrefnau Contractau'r cyngor yn cael eu diwygio ar hyn o bryd a byddant yn cynnwys cyfeiriad at y gofynion hyn.

 

4.2 Mae cwestiynau ar gosbrestru a chaethwasiaeth modern eisoes wedi'u cynnwys mewn tendrau a roddir gan yr Uned Gaffael Gorfforaethol

 

Sicrhau bod yr holl is-adrannau sy'n cynnal ymarferion tendro'n mabwysiadu'r un arfer â'r Uned Gaffael Gorfforaethol. Mae Rheolau Gweithdrefnau Contractau'r cyngor yn cael eu diwygio ar hyn o bryd a byddant yn cynnwys cyfeiriad at y gofynion hyn.

 

4.3 Mae amodau'r contract eisoes yn cynnwys elfennau o'r côd fel y bo'n briodol ac fe'i hadolygir i sicrhau priodoldeb bob tro y rhoddir tendr.

 

4.4 Ymchwilir eisoes i gynigion anarferol o isel yn ystod ymarfer tendro er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, sydd eisoes yn cynnwys cwestiynau sy'n ymwneud yn benodol â'r effaith ar weithwyr a chydymffurfio a deddfwriaeth.

 

Mae Rheolau Gweithdrefnau Contractau'r cyngor yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd a byddant yn cynnwys cyfeiriad at y gofynion hyn i hwyluso ymwybyddiaeth i is-adrannau eraill.

 

 

 

 

4.1 Parhaus

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

4.2 Parhaus

 

Rhaid diweddaru'r Rheolau Gweithdrefnau Contractau erbyn mis Ebrill 2019

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

4.3 Parhaus

 

 

 

 

 

4.4 Parhaus

 

Rhaid diweddaru'r Rheolau Gweithdrefnau Contractau erbyn mis Ebrill 2019

 

 

 

Bydd swyddogion yn cynnal gwiriadau ar hap ar ymarferion tendro i sicrhau eu bod yn cydymffurfio.

 

Cedwir cofnodion o'r holl dendrau (yn unol â gofynion Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015) a fydd yn caniatáu i'r fath faterion gael eu nodi.

Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol

5.     Sicrhau nad yw’r ffordd yr ydym yn gweithio gyda’n cyflenwyr yn arwain at ddefnyddio arferion cyflogaeth anghyfreithlon neu anfoesegol yn y gadwyn gyflenwi. Byddwn yn:

 

5.1.      Sicrhau nad oes pwysau cost ac amser gormodol ar unrhyw un o'n cyflenwyr os yw hyn yn debygol o arwain at drin gweithwyr mewn ffordd anfoesegol.

 

 

 

 

 

 

5.2.      Sicrhau y telir cyflenwyr CNPT mewn pryd - o fewn 30 niwrnod i dderbyn anfoneb ddilys.

 

 

5.3.      Bob tro y ceir dyfynbris neu dendr anarferol o isel, gofyn i ymgeiswyr esbonio’r effaith y gallai costau isel ei chael ar eu gweithwyr.

 

 

 

 

 

 

5.1 Bydd y swyddogion technegol perthnasol yn tynnu sylw at hyn wrth weithio gyda'r maes gwasanaeth dan sylw, a chaiff ei ystyried yn y Rheolau Gweithdrefnau Contract diwygiedig i sicrhau bod is-adrannau'n cydymffurfio. 

 

5.2 Mae hyn eisoes yn amod o'r contract ac mae systemau ar waith i gyflawni hyn.

 

5.3 Eir i'r afael â hyn yn ôl yr angen fel rhan o'r broses gaffael. Ymchwilir eisoes i gynigion anarferol o isel yn ystod ymarfer tendro i gydymffurfio â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015.

 

Mae Rheolau Gweithdrefnau Contractau'r cyngor yn cael eu diwygio ar hyn o bryd a byddant yn cynnwys cyfeiriad at y gofynion hyn

 

 

 

 

 

5.1 Parhaus

 

 

 

 

 

 

 

 

 

5.2 Parhaus

 

 

 

 

5.3 Parhaus

Rhaid diweddaru'r Rheolau Gweithdrefnau Contractau erbyn mis Ebrill 2019

 

 

Bydd swyddogion yn cynnal gwiriadau ar hap ar ymarferion tendro i sicrhau eu bod yn cydymffurfio.

 

Cedwir cofnodion o'r holl dendrau (yn unol â gofynion Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015) a fydd yn caniatáu i'r fath faterion gael eu nodi.

Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol

6.     Disgwyl i’n cyflenwyr ymrwymo i’r Côd Ymarfer hwn er mwyn helpu i sicrhau bod arferion cyflogaeth foesegol yn cael eu cynnal drwy’r gadwyn gyflenwi.

 

Byddwn yn cynyddu ymwybyddiaeth o'r hyn rydym wedi ymrwymo i'w wneud fel cyngor ac yn annog ein cyflenwyr i wneud yr un peth lle bynnag y bo'n bosib. Bydd ein hymrwymiad i'r côd yn rhan o'r broses gaffael drwy ei gynnwys yn y ddogfennaeth dendro.

 

      Parhaus

Cesglir ystadegau ar gyfer y cyflenwyr sy'n ymrwymo i'r Côd Ymarfer hwn ac i'r rhai nad ydynt yn gwneud hyn, dylid darparu esboniad i egluro'r rhesymu fel y gall y cyngor ystyried pam mae hyn yw’r achos, ac edrych ar ei rwymedigaethau tendro'n unol â hyn.

 

Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol

7.     Asesu ein gwariant i ddod o hyd i faterion caethwasiaeth fodern, torri hawliau dynol ac arferion cyflogaeth anfoesegol, ac ymdrin â hwy. Byddwn yn:

 

7.1.      Cynnal adolygiadau rheolaidd o wariant ac yn cynnal asesiad risg ar y canfyddiadau, i ddod o hyd i gynnyrch a/neu wasanaethau lle ceir risg o gaethwasiaeth fodern a/neu arferion cyflogaeth anghyfreithlon neu anfoesegol yn y DU a thramor.

 

 

 

 

 

 

7.2.      Ymchwilio i arferion unrhyw gyflenwr sydd wedi’i nodi fel risg uchel, drwy ymgysylltu’n uniongyrchol â’r gweithwyr lle bynnag y bo hynny’n bosibl.

 

7.3.      Gweithio gyda’n cyflenwyr i unioni unrhyw faterion yn gysylltiedig ag arferion cyflogaeth anghyfreithlon neu anfoesegol.

 

7.4.      Monitro arferion cyflogaeth ein cyflenwyr risg uchel, gan wneud hyn yn eitem safonol ar yr agenda ar gyfer pob cyfarfod/adolygiad rheoli contractau.

 

 

 

 

 

 

7.1 Byddwn yn nodi'r cynnyrch a/neu'r  gwasanaethau hynny sy'n rhai risg uchel o bosib. Sefydlu proses i asesu'r contractau a'r arferion gwaith  drwy gynllun peilot i asesu sampl o gyflenwyr i geisio nodi a gwahardd unrhyw enghreifftiau o gaethwasiaeth modern neu arferion cyflogaeth anfoesegol.

 

7.2 Yn ôl y galw

 

 

 

 

 

7.3 Yn ôl y galw

 

 

 

 

7.4 Byddwn yn ymgorffori hyn yn ein prosesau rheoli contractau ac yn monitro pob cyflenwr risg uchel.

 

 

 

 

 

7.1 Parhaus

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

7.2 Parhaus

 

 

 

 

 

7.3 Parhaus

 

 

 

 

7.4 Parhaus

Bydd swyddogion yn cynnal gwiriadau ar hap ar ymarferion tendro i sicrhau eu bod yn cydymffurfio.

 

Cedwir cofnodion o'r holl dendrau (yn unol â gofynion Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015) a fydd yn caniatáu i'r fath faterion gael eu nodi.

Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol

8.     Sicrhau na fydd unrhyw arferion hunangyflogi ffug yn cael eu cynnal ac na fydd cynlluniau mantell a chontractau dim oriau yn cael eu defnyddio’n annheg neu fel modd o:

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

8.1.      Osgoi, neu hwyluso osgoi, talu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol a’r isafswm cyflog perthnasol.

 

 

 

8.2.      Rhoi gweithwyr dan anfantais yn ddiangen o ran hawliau tâl a chyflogaeth, sicrwydd swyddi a chyfleoedd gyrfa.

 

8.3.      Osgoi cyfrifoldebau Iechyd a Diogelwch.

 

At ddibenion eglurder, nid yw'r cyngor yn defnyddio 'contractau dim oriau', mae'n defnyddio 'contractau oriau achlysurol'. Bydd y cyngor fodd bynnag yn rheoli'r sefyllfa o ran ei gontractwyr a chadwyni cyflenwi ei gontractwyr i sicrhau na ddefnyddir 'contractau dim oriau' mewn modd annheg fel a nodwyd yn yr ymrwymiad hwn, Ymrwymiad Rhif 8.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

8.1 Caiff hyn ei gynnwys yn neddfwriaeth IR35 ond byddwn yn ei ymgorffori yn ein prosesau rheoli contractau ac yn monitro pob cyflenwr risg uchel.

 

8.2 Fel uchod

 

 

 

8.3 Mae pob contract yn cynnwys gofynion er mwyn cydymffurfio â chyfrifoldebau a deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a byddwn yn ymgorffori hyn yn ein prosesau rheoli contractau ac yn monitro cyflenwyr risg uchel.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Egwyddorion a Chanllawiau ar gyfer Defnyddio Trefniadau Oriau heb eu Gwarantu ac mae'r cyngor wedi  ceisio gweithredu'n unol â hyn.

Cynhaliodd y cyngor archwiliad arfer yn ddiweddar er mwyn rhoi adborth i Lywodraeth Cymru drwy Gyngor Partneriaeth y Gweithlu, a nodwyd un bwlch yn ein harfer sef datblygu polisi clir mewn perthynas â'r rhai sy'n ymwneud â threfniadau oriau heb eu gwarantu. Rhoddir polisi ar waith i gyflawni hyn yn y gwanwyn 2019.

 

 

 

 

 

 

 

 

8.1 Parhaus

 

 

 

 

 

 

8.2 Parhaus

 

 

 

8.3 Parhaus

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Bydd swyddogion yn cynnal gwiriadau ar hap ar ymarferion tendro i sicrhau eu bod yn cydymffurfio.

 

Cedwir cofnodion o'r holl dendrau (yn unol â gofynion Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015) a fydd yn caniatáu i'r fath faterion gael eu nodi.

Pennaeth AD/Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol

9.     Sicrhau bod gweithwyr yn rhydd i ymuno ag Undeb Llafur neu gydgytundeb ac i ymgymryd ag unrhyw weithgaredd cysylltiedig a chodi pryderon gweithwyr heb berygl y byddant yn wynebu unrhyw fath o wahaniaethu yn eu herbyn. Byddwn yn:

 

 

 

 

 

 

 

9.1.      Peidio â defnyddio cosbrestri/rhestri gwaharddedig. 

 

 

 

9.2.      Sicrhau nad yw ein cyflenwyr yn defnyddio cosbrestri/rhestri gwaharddedig.

 

 

 

 

 

9.3.      Peidio â llunio contract ag unrhyw gyflenwr sydd wedi defnyddio cosbrestr/rhestr waharddedig ac sydd wedi methu cymryd camau i unioni’r sefyllfa.

 

 

9.4.      Disgwyl i’n cyflenwyr sicrhau bod cynrychiolwyr Undebau Llafur yn gallu cael mynediad at aelodau a gweithwyr contract.

 

Mae'r cyngor yn annog perthynas iach â'r

undebau llafur cydnabyddedig ac mae'n awyddus i weithio mewn partneriaeth â nhw. Bydd y cyngor yn sicrhau na fydd unrhyw staff dan

anfantais annheg am gymryd rhan mewn gweithgaredd ar ran undeb.

 

 

9.1 Nid yw'r cyngor yn defnyddio cosbrestrau/rhestrau gwaharddedig.

 

9.2 Bydd y cyngor yn ymdrechu i sicrhau ein bod yn defnyddio cyflenwyr

sy'n rhannu'r egwyddor hon ac mae contractau'n cynnwys rhwymedigaethau contract i annog hyn.

 

9.3 Mae sicrwydd hyn yn rhan o drefniadau

 cyn-gymhwyso cyflenwyr sy'n cynnig am gontractau'r cyngor.

 

9.4 Gweler 9.2 uchod

Parhaus

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Bydd swyddogion yn cynnal gwiriadau ar hap ar ymarferion tendro i sicrhau eu bod yn cydymffurfio.

 

Cedwir cofnodion o'r holl dendrau (yn unol â gofynion Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015) a fydd yn caniatáu i'r fath faterion gael eu nodi.

Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol/Pennaeth AD

10.  Ystyried talu Cyflog Byw y Sefydliad Cyflog Byw fel isafswm i bob aelod o staff ac annog ein cyflenwyr i wneud yr un fath. Byddwn yn:

 

 

 

 

10.1.  Ystyried talu Cyflog Byw’r Sefydliad Cyflog Byw fel isafswm i’n holl staff yn y DU.

 

 

 

10.2.  Ystyried cael ein hachredu fel Cyflogwr Cyflog Byw. 

 

 

 

 

10.3.  Annog ein cyflenwyr sydd wedi’u lleoli dramor i dalu cyflog teg i’w holl staff, a sicrhau bod staff sy’n gweithio yn y DU yn cael yr isafswm cyflog o leiaf.

 

Mae'r cyngor yn ymrwymedig i sicrhau bod staff y cyngor sydd â'r cyflogau isaf yn derbyn tâl sydd gyfwerth â chyflog byw'r Sefydliad Cyflog Byw

 

O ran ein cyflenwyr:

10.1 O ystyried sefyllfa bresennol y gyllideb, yr unig ffordd y gellir ystyried hyn yw os bydd Llywodraeth Cymru'n ei ariannu'n llawn.

 

10.2 O ystyried sefyllfa bresennol y gyllideb, yr unig ffordd y gellir ystyried hyn yw os bydd Llywodraeth Cymru'n ei ariannu'n llawn.

 

10.3. Ni fydd rhwymedigaeth ar bob cyflenwr i dalu'r isafswm cyflog cenedlaethol fel rhwymedigaeth gyfreithiol gytundebol.

Parhaus

Bydd swyddogion yn cynnal gwiriadau ar hap ar ymarferion tendro i sicrhau eu bod yn cydymffurfio.

 

Cedwir cofnodion o'r holl dendrau (yn unol â gofynion Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015) a fydd yn caniatáu i'r fath faterion gael eu nodi.

Pennaeth AD/Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol

11.  Llunio datganiad blynyddol ysgrifenedig yn amlinellu’r camau a gymerir yn ystod y flwyddyn ariannol, a’r camau gweithredu sy’n cael eu cynllunio, i sicrhau nad oes unrhyw achos o gaethwasiaeth na masnachu pobl yn unrhyw ran o’n sefydliad a’i gadwyni cyflenwi. Byddwn yn:

 

11.1.  Sicrhau bod y datganiad yn cael ei lofnodi gan uwch-reolwr/aelod o’r bwrdd.  

 

 

 

 

11.2.  Cyhoeddi’r datganiad ar ein gwefan. Os nad yw hyn yn bosibl, byddwn yn darparu copi i unrhyw un cyn pen 30 niwrnod o dderbyn cais.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

11.1 Bydd y datganiad a geir yn y Polisi Recriwtio a Dethol drafft yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet wedi' i'r Undebau Llafur ei gymeradwyo

 

 

11.2 Cyhoeddir y Datganiad Cymeradwy ar wefan y cyngor.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

11.1 Cymeradwyo'r datganiad drafft erbyn mis Mawrth 2019

 

 

 

 

11.2 Cyhoeddi datganiad yn dilyn cymeradwyaeth erbyn mis Mawrth 2019.

 

Bydd swyddogion yn cynnal gwiriadau ar hap ar ymarferion tendro i sicrhau eu bod yn cydymffurfio.

 

Cedwir cofnodion o'r holl dendrau (yn unol â gofynion Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015) a fydd yn caniatáu i'r fath faterion gael eu nodi.

Pennaeth AD/Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol

12.  Sicrhau bod y rheiny sy’n gwneud gwaith ar gontract allanol yn cael eu trin yn deg ac yn gyfartal. Byddwn yn:

 

12.1.  Sicrhau bod staff y sector cyhoeddus sy’n cael eu trosglwyddo fel rhan o wasanaeth cyhoeddus sy’n cael ei drefnu’n allanol drwy drydydd parti yn cadw eu hamodau a’u telerau cyflogaeth.

 

12.2.  Sicrhau bod aelodau eraill o staff sy’n gweithio ar wasanaeth cyhoeddus sy’n cael ei drefnu’n allanol yn cael eu cyflogi ar delerau ac amodau tebyg i’r staff sydd wedi eu trosglwyddo o’r sector cyhoeddus.

 

 

 

 

 

12.1 Glynir wrth ddeddfwriaeth TUPE a chynhwysir darpariaeth mewn dogfennaeth dendro lle bydd TUPE yn berthnasol.

 

 

12.2 Mae'r cyngor yn cytuno â'r egwyddor y dylai corff sy'n darparu gwasanaeth ar ei ran gyflogi staff ar amodau a thelerau gwaith sy'n debyg i'r staff hynny sydd wedi'u trosglwyddo o gyflogaeth yr awdurdod. Ar yr un pryd, mae angen i'r cyngor barchu gofynion cyfraith cyflogaeth ac ymrwymo iddynt wrth drosglwyddo staff o'i gyflogaeth.

 

 

 

 

 

12.1 Cwblhawyd

 

 

 

 

 

 

 

12.2 Cwblhawyd

 

Bydd swyddogion yn cynnal gwiriadau ar hap ar ymarferion tendro i sicrhau eu bod yn cydymffurfio.

 

Cedwir cofnodion o'r holl dendrau (yn unol â gofynion Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015) a fydd yn caniatáu i'r fath faterion gael eu nodi.

Pennaeth AD

13.  Er mwyn sicrhau y cydymffurfir â'r ddyletswydd yn Adran 26 Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015, bydd y cyngor yn sicrhau bod ei gyflenwyr yn cytuno i gydymffurfio ag unrhyw un o ofynion y cyngor fel y'u nodir yn Strategaeth ac Arweiniad Prevent ac Arweiniad Channel er mwyn sicrhau y rhoddir sylw priodol i'r angen i atal pobl rhag cael eu denu i derfysgaeth a/neu eithafiaeth.

Bydd y cyngor yn sicrhau bod

 

1. Cymal yn cael ei gynnwys ym mhob contract i'w gwneud yn ofynnol i'r holl gyflenwyr gydymffurfio ar bob adeg â Strategaeth ac Arweiniad Prevent ac Arweiniad Channel, mynychu sesiynau hyfforddiant a drefnir gan y cyngor (heb unrhyw gost i'r cyngor) mewn perthynas ag arweiniad o'r fath a gwneud unrhyw gyfeiriadau i sefydliadau priodol, gan sicrhau ar bob adeg fod y rhai sy'n darparu gwasanaethau i'r cyngor yn cynorthwyo wrth ganiatáu i'r cyngor fodloni ei rwymedigaethau statudol o dan Adran 26 Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015, a

 

2. Cwestiwn cyn cymhwyso'n cael ei gynnwys mewn dogfennaeth gaffael i sicrhau na fydd unrhyw ymgeisydd sy'n datgan ei fod wedi defnyddio'i gadwyni cyflenwi i ariannu a/neu gefnogi terfysgaeth a/neu eithafiaeth ac yn methu bodloni'r cyngor bod camau gweithredu lliniarol wedi'u cymryd i atal hyn rhag digwydd eto yn cael caniatâd i wneud cynnig mewn tendr o'r fath.

 

3. Bydd Rheolau Gweithdrefnau Contractau'r cyngor (sy'n cael eu diwygio ar hyn o bryd) yn cynnwys cyfeiriad at y gofynion hyn er mwyn hwyluso ymwybyddiaeth swyddogion y cyngor.

Parhaus

Bydd swyddogion yn cynnal gwiriadau ar hap ar ymarferion tendro i sicrhau eu bod yn cydymffurfio.

 

Cedwir cofnodion o'r holl dendrau (yn unol â gofynion Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015) a fydd yn caniatáu i'r fath faterion gael eu nodi.

Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, y Prif Weithredwr Cynorthwyol a'r Prif Swyddog Digidol