Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Delio â'r Cyngor

Sut i ddod o hyd i gyfleoedd contract

Caiff Cyfleoedd Contract eu hysbysebu yn y ffyrdd canlynol:

GwerthwchiGymru

Dyma'r wefan gaffael genedlaethol a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru. Gellir cofrestru ar y wefan am ddim ac mae'n darparu mynediad i gyfleoedd contract ar draws sector cyhoeddus Cymru. Ceir nifer o fanteision drwy gofrestru ar y wefan hon, gan gynnwys y gallu i osod hysbysiadau e-bost a fydd yn rhoi gwybod i chi'n awtomatig pan gyhoeddir cyfleoedd contract addas.

Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU)

Os rhagorir ar Drothwyon Caffael Ewropeaidd, caiff yr hysbysiad contract ei hysbysebu yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU) hefyd. Gellir cofrestru am ddim ar y safle a cheir mynediad i holl gynnwys yr OJEU, gan gynnwys gwybodaeth sydd wedi'i harchifo. Gellir gosod hysbysiadau e-bost ar eich proffil hefyd er mwyn rhoi gwybod i chi am gyfleoedd addas.

Cylchgronau Arbenigol/Y Wasg Leol 

Lle y bo'n briodol, caiff cyfleoedd eu hysbysebu mewn cylchgronau masnach arbenigol, cylchgronau proffesiynol neu yn y wasg leol, e.e. Western Mail, South Wales Evening Post.

Yr Hysbyseb

Bydd hysbyseb y cyngor (a adwaenir hefyd fel 'Hysbysiad Contractau') fel arfer yn cynnwys manylion am y canlynol:

  • Natur, diben a hyd y contract 
  • Os gwahoddir mynegiannau o ddiddordeb neu dendrau 
  • Cyfarwyddiadau sy'n egluro sut gall sefydliadau sydd  â diddordeb gymryd rhan
  • Amser a dyddiad cau ar gyfer derbyn mynegiannau o ddiddordeb neu dendrau 

I gael mwy o wybodaeth am y broses dendro, ynghyd â gwybodaeth ac arweiniad ar sut i dendro, ewch i'r dudalen benodol am Y Broses Dendro.

Rhestr Ddethol ar gyfer Contractau Gwaith

Mae gennym restrau dethol ar hyn o bryd er mwyn cefnogi ein gwaith adeiladu, priffyrdd, cynnal a chadw eiddo ac adnewyddu ac addasu tai.

Mae'r rhestrau dethol yn cynnwys enwau sefydliadau sy'n bodloni ein safonau gofynnol o ran iechyd a diogelwch, sefyllfa ariannol a gallu technegol. Mae cymeradwyaeth ar y rhestrau dethol yn ei gwneud hi'n bosib i wneud cais am ddyfynbrisiau neu dendrau o dan Drothwyon Caffael yr UE heb unrhyw gyn-gymhwyso ychwanegol.

I gael mwy o wybodaeth am y rhestrau dethol a sut i gyflwyno cais i gael eich cynnwys ar restr, cysylltwch â thîm y rhestrau dethol drwy ddefnyddio'r manylion ar y dudalen Manylion Cyswllt.

Arweiniad "Sut i Ddelio â'r Cyngor"

Mae Uned Gaffael Gorfforaethol y cyngor wedi llunio arweiniad ar y cyd â'r Tîm Gwasanaethau Busnes i helpu i egluro sut rydym yn prynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith a sut gallwch fod yn gyflenwr.Bydd yr arweiniad ar gael i'w lawrlwytho'n uniongyrchol o'r wefan yn fuan. Os ydych am gael copi yn y cyfamser, cysylltwch â'r Uned Gaffael Gorfforaethol drwy ddefnyddio'r manylion ar y dudalen Manylion Cyswllt.