Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Croeserw

Canolfan Menter Gymunedol Croeserw

Canolfan Menter Gymunedol Croeserw

Roedd Canolfan Menter Gymunedol Croeserw, a ariannwyd yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, wedi agor ei drysau i'r cyhoedd ym mis Medi 2013. Mae'n gyfleuster sydd, yn ogystal â chynnig gweithgareddau cymunedol hanfodol a thraddodiadol, yn cynnwys ystafelloedd hyfforddi pwrpasol i ddarparu amrywiaeth eang o gyfleoedd sgiliau, dysgu a menter i'r cyhoedd. Adeiladwyd y ganolfan newydd ar hen safle Rhiw Lech View. Dymchwelwyd yr hen ganolfan gymunedol a gosodwyd ardal chwarae newydd hyfryd i blant yn ei lle.

Mae'r ganolfan yn darparu llety hyblyg i fentrau cymunedol a busnesau bach newydd, ac mae'n cynnwys amrywiaeth eang o gyfleusterau cymunedol megis ardal hyfforddi ieuenctid a TG benodol a dau weithdy sy'n cynnwys yr holl gyfarpar ar gyfer sgiliau adeiladu a chyrsiau hyfforddiant trin gwallt a harddwch. Mae pob ystafell ar gael i'w llogi ar gyfradd fforddiadwy, gyda lluniaeth a/neu arlwyo ar gael, yn ogystal â mynediad i daflunyddion, gliniaduron, llungopiwyr a llawer mwy. Mae yna hefyd ardal chwaraeon allanol dan lifoleuadau, ardal gyfrifiaduron mynediad agored, cegin hyfforddiant a phrif neuadd gyda llwyfan a seddi hyblyg.

Mae'r ganolfan yn boblogaidd iawn gyda phob oedran ac mae bob amser yn brysur gyda llawer o weithgareddau a chyrsiau hyfforddiant. Am fwy o wybodaeth neu i gadw lle ffoniwch 01639 853020 a chewch y newyddion diweddaraf am y gweithgareddau diweddaraf yn y ganolfan ar ein tudalen Facebook yn https://www.facebook.com/CroeserwCEC.

Oriau Agor y Ganolfan (gall yr oriau newid)

  • Dydd Llun 8.30am - 6.00pm
  • Dydd Mawrth 8.30am - 9.00pm
  • Dydd Mercher 8.30am - 9.00pm
  • Dydd Iau 8.30am - 9.00pm
  • Dydd Gwener 8.30am - 8.00pm

Oriau Agor y Caffi (gall yr oriau newid)

Dydd Llun i ddydd Gwener 9am - 3pm 

Cyfarwyddiadau i SA13 3PL
Canolfan Menter Gymunedol Croeserw
Heol Bryn Siriol Croeserw Y Cymmer Port talbot Castell-nedd Port Talbot SA13 3PL pref
(01639) 853020 (01639) 853020 voice +441639853020