Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Adfywio Pontardawe

Mae cam 1 gwaith amgylcheddol Parc Ynysderw, Pontardawe bellach wedi'i gwblhau oherwydd £50,000 gan Lywodraeth Cymru. Mae'r gwaith yn cynnwys ffyrdd cerdded ag arwynebau newydd a gerddi teras â waliau cerrig a phlanhigion newydd. Bydd seddau gyda golygfeydd dros afon Tawe yn nodwedd dderbyniol a deniadol iawn i drigolion ac ymwelwyr.

Grantiau

Mae'r tîm Adfywio yn rheoli nifer o gynlluniau grant eiddo â'r nod o wella eiddo busnes mewn ardaloedd masnachol. Pwyslais y mentrau yw annog twf busnes a mentrau newydd, creu cyflogaeth a gwella'r amgylchedd masnachol drwy welliannau eiddo o safon. Bydd y grantiau'n ategu gwaith arall sy'n cael ei gyflawni i adfywio canol trefi.

Mwy o wybodaeth: Grantiau eiddo