Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Adfywio Port Talbot

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau grant Ewropeaidd gwerth £1.1 miliwn tuag at gost celfi stryd newydd ar Heol yr Orsaf a Heol Forge ac i adnewyddu'r canopi blaen siop presennol ar Heol yr Orsaf.
Bellach mae gan Heol yr Orsaf a Heol Forge gelfi stryd dur gwrthstaen a phren, gan gynnwys meinciau, byrddau, bolardiau, biniau a phileri goleuadau yn ogystal â phlanwyr.

Prif nodwedd y gwaith yw adnewyddu'r canopi blaen siop ar hyd yr ardal i gerddwyr ar Heol yr Orsaf.

Mae'r strwythur presennol wedi'i  ailfodelu  a'i addurno i'w wneud i edrych yn fwy deniadol ac i gadw at naws y celfi stryd newydd. Bydd y gorchudd plastig crwm yn cael ei ddisodli gan baneli syth o wydr laminiad gan greu mwy o olau a phrofiad siopa llawer mwy pleserus.

Gorsaf Port Talbot Parkway

Mae cynlluniau ar gyfer buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd i orsaf drenau Port Talbot wedi cael eu cymeradwyo.

Roedd yr orsaf wedi derbyn gwaith adnewyddu sylweddol yn y 1960au ac fe'i dynodwyd yn 'Parkway' yn y 1980au. Mae oddeutu hanner miliwn o deithwyr yn defnyddio'r orsaf bob blwyddyn ac mae croeso mawr i'r gwaith ailddatblygu arfaethedig.

Grantiau

Mae'r tîm Adfywio yn rheoli nifer o gynlluniau grant eiddo â'r nod o wella eiddo busnes mewn ardaloedd masnachol. Pwyslais y mentrau yw annog twf busnes a mentrau newydd, creu cyflogaeth a gwella'r amgylchedd masnachol drwy welliannau eiddo o safon. Bydd y grantiau'n ategu gwaith arall sy'n cael ei gyflawni i adfywio canol trefi.