Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Adroddiad blynyddol a hunanasesiad 2021-2022

Mae rhwymedigaeth ar y Cyngor i ddefnyddio’i Adroddiad Blynyddol bob blwyddyn i adrodd i ba raddau mae’r amcanion llesiant a nodir yn y Cynllun Corfforaethol wedi cael eu cyflawni. Mae’r Adroddiad Blynyddol yn cyflawni’r dyletswyddau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Rhan 6, Pennod 1, yn gofyn bod rhaid i gyngor gynhyrchu adroddiad hunanasesu ar gyfer pob blwyddyn ariannol a chyflwyno ei gasgliadau ynghylch i ba raddau mae’n cyflawni ei ofynion perfformiad. Mae’r ddyletswydd hon yn ymdrin â pherfformiad blwyddyn ariannol 2021-2022. Dylai’r hunanasesiad gael ei gyhoeddi cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl yn y flwyddyn ariannol ddilynol (2022 - 2023).

Cyhoeddir Adroddiad Blynyddol Cynllun Corfforaethol a Hunanasesiad Corfforaethol y Cyngor 2021/22 isod.