Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cynllun Cyhoeddi

Rydym wedi mabwysiadu Cynllun Cyhoeddi Enghreifftiol y Comisiynydd Gwybodaeth sy'n nodi'r mathau o wybodaeth y mae'r Awdurdod yn bwriadu eu darparu'n rheolaidd  i'r cyhoedd.

Nod yr Awdurdod yw gwneud y wybodaeth hon yn hawdd i'w chanfod a'i defnyddio. Mewn llawer o achosion bydd y wybodaeth ar gael yn uniongyrchol drwy'r wefan hon. Lle nad yw hyn yn bosibl, nod y Cyngor yw darparu'r wybodaeth a gwmpesir gan y cynllun yn brydlon ar ôl derbyn cais.

Mae'r Cynllun Cyhoeddi yn nodi saith dosbarth eang o wybodaeth y mae'r Cyngor yn ymrwymo i'w darparu fel mater o drefn.

Ategir y Cynllun gan Ddogfen Ddiffinio ar gyfer awdurdodau lleol a gyhoeddir gan y Comisiynydd Gwybodaeth sy'n rhoi enghreifftiau o'r mathau o wybodaeth y disgwyliwn eu darparu o dan bob un o'r saith dosbarth o wybodaeth a nodir yn y Cynllun Cyhoeddi.

Dylai ymholwyr nodi nad yw hyn yn golygu bod rhaid i'r Cyngor rhyddhau'r holl wybodaeth a gwmpesir gan y diffiniadau cyffredinol yn y Ddogfen Diffinio fel mater o drefn. Mae'r cynllun ei hun yn nodi'r amgylchiadau lle na fydd yn ofynnol i'r Cyngor sicrhau bod gwybodaeth ar gael fel mater o drefn. Y rhain yw:

  • nad yw'r wybodaeth yn cael ei chadw;
  • mae'r wybodaeth wedi'i heithrio rhag cael ei datgelu, er enghraifft data personol neu ddiddordeb masnachol; neu
  • ni all y Cyngor cael mynediad i'r wybodaeth yn hawdd.

Cyn bo hir bydd y Cyngor yn cyhoeddi ac yn darparu canllaw i'r wybodaeth a gedwir yn y cynllun a fydd yn rhoi manylion am:

  • yr wybodaeth sydd i'w darparu fel mater o drefn;
  • sut y gellir cael mynediad i’r wybodaeth; ac
  • a fydd tâl yn cael ei godi amdano ai peidio.