Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Ein Cynllun Cyhoeddi

Rhagarweiniad

Mabwysiadwyd y cynllun cyhoeddi hwn gan yr awdurdod heb addasiad o'r model a baratowyd ac a gymeradwywyd gan y Comisiynydd. Bydd yn ddilys hyd nes y clywir yn wahanol.

Mae'r cynllun cyhoeddi hwn yn ymrwymo Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i sicrhau bod gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd fel rhan o'i weithgareddau busnes arferol. Mae'r wybodaeth a gwmpesir wedi'i chynnwys yn y dosbarthiadau o wybodaeth a grybwyllir isod, lle mae'r wybodaeth hon yn cael ei chadw gan yr awdurdod. Darperir cymorth ychwanegol i'r diffiniad o'r dosbarthiadau hyn mewn llawlyfr arweiniad sy'n benodol i'r sector a gyhoeddwyd gan y Comisiynydd Gwybodaeth.

Mae'r cynllun yn ymrwymo'r awdurdod i:

  • Fynd ati i gyhoeddi gwybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth amgylcheddol, a ddelir gan yr awdurdod ac sy'n dod o fewn y dosbarthiadau isod neu fel arall drefnu bod yr wybodaeth hon ar gael fel mater o arfer.
  • Nodi'r wybodaeth a gedwir gan yr awdurdod ac sy'n cael ei chynnwys yn y dosbarthiadau isod.
  • Mynd ati i gyhoeddi gwybodaeth yn unol â'r datganiadau a gynhwysir yn y cynllun hwn neu fel arall drefnu fod yr wybodaeth hon ar gael fel mater o arfer.
  • Llunio a chyhoeddi'r dulliau a ddefnyddir i drefnu bod yr wybodaeth benodol ar gael fel mater o drefn fel y gall aelodau o'r cyhoedd ei hadnabod a'i chyrchu'n hawdd.
  • Adolygu a diweddaru'n rheolaidd yr wybodaeth y mae'r awdurdod yn trefnu ei bod ar gael dan y cynllun hwn.
  • Llunio rhestr o unrhyw ffïoedd a godir am fynediad at wybodaeth yr eir ati i drefnu ei bod ar gael.
  • Sicrhau bod y cynllun cyhoeddi hwn ar gael i'r cyhoedd.
  • Gyhoeddi unrhyw set o ddata a gedwir gan yr awdurdod y gofynnwyd amdani, ac unrhyw fersiynau wedi eu diweddaru y mae'n eu cadw, oni bai bod yr awdurdod yn fodlon nad yw'n briodol gwneud hynny; cyhoeddi'r set data, pan fydd yn rhesymol o ymarferol, ar ffurf electronig y gellir ei ailddefnyddio; ac, os bydd unrhyw wybodaeth yn y set data yn waith hawlfraint perthnasol ac mai'r awdurdod cyhoeddus Cynllun cyhoeddi enghreifftiol Cynllun cyhoeddi yw'r unig berchennog, sicrhau bod y wybodaeth ar gael i'w hailddefnyddio dan amodau'r Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus 2015, os ydynt yn berthnasol, ac fel arall dan amodau adran Deddf Rhyddid Gwybodaeth. Diffinnir ‘set data’ yn adran 11(5) Deddf Rhyddid Gwybodaeth. Diffinnir 'gwaith hawlfraint perthnasol' yn adran 19(8) o'r Ddeddf honno.

Dosbarthiadau o wybodaeth

  1. Pwy ydym ni a'r hyn rydym yn ei wneud.
    Gwybodaeth sefydliadol, lleoliadau a chysylltiadau, llywodraethu cyfansoddiadol a chyfreithiol.
  2. Yr hyn yr ydym yn ei wario a sut yr ydym yn ei wario 
    Gwybodaeth ariannol sy'n ymwneud ag incwm rhagamcanol a gwirioneddol a gwariant, tendro, caffael a chontractau.
  3. Beth yw ein blaenoriaethau a sut rydym yn ei wneud
    Gwybodaeth am strategaethau a pherfformiad, cynlluniau, asesiadau, arolygiadau ac adolygiadau.
  4. Sut rydym yn gwneud penderfyniadau
    Cynigion a phenderfyniadau polisi. Prosesau gwneud penderfyniadau, meini prawf a gweithdrefnau mewnol, ymgynghoriadau.
  5. Ein polisïau a'n gweithdrefnau
    Protocolau ysgrifenedig cyfredol ar gyfer cyflawni'n swyddogaethau a'n cyfrifoldebau.
  6. Rhestrau a chofrestri
    Gwybodaeth a gedwir mewn cofrestrau sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith a rhestrau a chofrestrau eraill sy'n ymwneud â swyddogaethau'r awdurdod.
  7. Y gwasanaethau rydym yn eu cynnig
    Cyngor ac arweiniad, llyfrynnau a thaflenni, trafodion a datganiadau i'r cyfryngau. Disgrifiad o'r gwasanaethau a gynigir.

Yn gyffredinol, ni fydd y dosbarthiadau gwybodaeth yn cynnwys:

  • Gwybodaeth y'i hatelir rhag cael ei datgelu gan y gyfraith, neu sy'n eithriedig o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, neu y'i hystyrir yn briodol fel arall i'w diogelu rhag cael ei datgelu;
  • Gwybodaeth ar ffurf drafft.
  • Gwybodaeth nad yw bellach ar gael yn rhwydd gan ei bod wedi'i chynnwys mewn
    ffeiliau sydd wedi'u gosod mewn storfa archifau, neu sy'n anodd cael gafael arni
    am resymau tebyg.

Y dull a ddefnyddir i drefnu bod gwybodaeth a gyhoeddir dan y cynllun hwn ar gael

Bydd yr awdurdod yn nodi'n glir i'r cyhoedd pa wybodaeth a gwmpesir gan y cynllun hwn a sut y gellir cael gafael arni.

Os yw o fewn gallu'r awdurdod, bydd gwybodaeth yn cael ei darparu ar wefan. Lle nad yw'n ymarferol trefnu bod gwybodaeth ar gael ar wefan neu pan nad yw unigolyn yn dymuno cael mynediad at yr wybodaeth drwy'r wefan, bydd yr awdurdod yn dangos sut y gellir cael gafael ar wybodaeth drwy ddulliau eraill ac yn ei darparu drwy'r dulliau hynny.

Mewn amgylchiadau eithriadol, efallai y bydd rhywfaint o wybodaeth ar gael dim ond drwy ei gweld yn bersonol. Pan nodir y dull hwn, bydd manylion cyswllt yn cael eu
darparu. Trefnir apwyntiad i weld yr wybodaeth o fewn amserlen resymol.

Darperir gwybodaeth yn yr iaith y'i cedwir ynddi neu yn y fath iaith arall sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith. Pan fo'n ofynnol yn gyfreithiol i'r cyngor gyfieithu unrhyw wybodaeth, bydd yn gwneud hynny.

Wrth ddarparu gwybodaeth yn unol â'r cynllun hwn, glynir wrth rwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth anabledd a gwahaniaethu ac unrhyw ddeddfwriaeth arall i ddarparu gwybodaeth mewn ffurfiau a fformatau eraill.

Taliadau y gellir eu gwneud am wybodaeth a gyhoeddir o dan y cynllun hwn

Diben y cynllun hwn yw sicrhau bod yr uchafswm o wybodaeth ar gael yn rhwydd, am gyn lleied o anghyfleustra a chost i'r cyhoedd.

Bydd ffïoedd a godir gan yr awdurdod am ddeunydd a gyhoeddir fel mater o drefn yn cael eu cyfiawnhau, byddant yn dryloyw ac fe'u cedwir mor isel â phosib.

Darperir deunydd sy'n cael ei gyhoeddi a'i gyrchu ar wefan yn rhad ac am ddim.

Gellir codi tâl am wybodaeth yn amodol ar drefn codi tâl a bennir gan y Senedd.

Gellir codi tâl am y treuliau gwirioneddol yr eir iddynt megis:

  • Llungopïo
  • Costau postio a phecynnu
  • Y costau yr eir iddynt yn uniongyrchol o ganlyniad i weld gwybodaeth

Gellir codi ffïoedd hefyd am wybodaeth a ddarperir dan y cynllun hwn lle cânt eu hawdurdodi'n gyfreithiol, a lle bo modd eu cyfiawnhau dan yr holl amgylchiadau, gan gynnwys egwyddorion cyffredinol yr hawl i weld gwybodaeth a ddelir gan awdurdodau cyhoeddus, a lle bônt yn unol ag atodlen neu atodlenni ffïoedd sydd ar gael yn rhwydd i'r cyhoedd.

Os codir ffi, rhoddir cadarnhad o'r taliad sy'n ddyledus cyn i'r wybodaeth gael ei darparu. Gellir gofyn am daliad cyn darparu'r wybodaeth.

Gellir codi tâl hefyd am wneud setiau data (neu setiau data rhannol) sy'n waith hawlfraint perthnasol sydd ar gael i'w hailddefnyddio. Bydd y taliadau yma yn unol ag amodau'r Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus 2015, pan fyddant yn berthnasol, neu â rheoliadau a wnaed dan adran 11B o'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, neu gyda phwerau statudol eraill yr awdurdod cyhoeddus.

Ceisiadau ysgrifenedig

Gellir gofyn am wybodaeth a ddelir gan yr awdurdod nad yw'n cael ei chyhoeddi dan y cynllun hwn yn ysgrifenedig, pan fydd ei darpariaeth yn cael ei hystyried yn
unol â darpariaethau'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.