Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Amdanom ni

Mae Deddf Trosedd ac Anhrefn (1998), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Diwygio'r Heddlu (2002), yn gosod rhwymedigaeth statudol ar awdurdodau lleol a'r Heddlu i ffurfio partneriaethau amlasiantaethol er mwyn lleihau troseddu ac anhrefn ar draws ardal yr awdurdod lleol.

Mae Partneriaeth Castell-nedd Port Talbot Mwy Diogel yn gweithredu ymagwedd partneriaeth amlasiantaethol at ymdrin â materion diogelwch cymunedol a throseddu ac anhrefn.

Fel partneriaeth, rydym yn ymrwymedig i gydweithio i sicrhau gostyngiadau cynaliadwy mewn troseddu, ofn troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ogystal â darparu cyngor a sicrwydd ymarferol ar atal troseddu a diogelwch cymunedol.