Newidiadau i Ffiniau Etholaethau
Lluniwyd ffiniau newydd ar gyfer etholaethau seneddol fel rhan o ymarfer adolygu ffiniau a gwblhawyd yn 2023.
Bwriedir i'r ffiniau diwygiedig adlewyrchu newidiadau poblogaeth ers y newidiadau diwethaf i etholaethau yn 2010.
Cynhaliwyd yr adolygiad yng Nghymru, sy'n effeithio'n benodol ar ffiniau etholaethau seneddol y DU yn unig, gan Y Comisiwn Ffiniau i Gymru.
Newidiadau i ffiniau etholaethau
Bydd nifer y seddi yn Nhŷ'r Cyffredin yn aros yr un peth, sef 650.
Bydd Cymru yn colli wyth sedd seneddol, gan leihau o 40 i 32 gyda newidiadau i bob etholaeth ar wahân i Ynys Môn yng Ngogledd Cymru.
Nid yw'r ffiniau a ddefnyddir ar gyfer etholiadau lleol a'r Senedd wedi newid.
Rheolau am faint etholaethau
Mae'n ofynnol i'r amrediad etholiadol ar gyfer yr holl seddi yn y DU fod rhwng 69,724 a 77,062.
Etholaethau newydd yn yr ardal Cyngor Castell Need Port Talbot
Mae'r etholaethau newydd sy'n cwmpasu'r rhan fwyaf o ardal Cyngor Castell-nedd Port Talbot fel a ganlyn:
- Aberafan, Maesteg
- Castell-nedd a Dwyrain Abertawe
Bydd naw ward etholiadol yn ardal Castell-nedd Port Talbot sy'n ffurfio Pontardawe, Cwm Tawe Uchaf a Chwm Aman yn cael eu symud i etholaethau newydd:
- Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe
Mae rhagor o wybodaeth am y broses Adolygu Ffiniau i'w chael ar wefan Y Comisiwn Ffiniau i Gymru
Dysgwch am etholiadau sydd ar ddod yn ardal Cyngor Powys
Ailgofrestru fel etholwr
Na fydd angen i chi ailgofrestru, bydd eich manylion yn cael eu cadw o hyd gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol sy'n gyfrifol am yr ardal lle'r ydych yn byw a chânt eu hanfon ymlaen at y Swyddog Canlyniadau i'w defnyddio yn yr etholiad.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau mewn perthynas â chofrestru etholiadol, cysylltwch â'r Swyddfa Cofrestru Etholiadol berthnasol: