Hysbysiad o Etholiad
Ethol Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer Ardal Heddlu De Cymru - 2 Mai 2024
Cynhelir etholiad ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer Ardal Heddlu De Cymru.
- Gellir cael papurau enwebu o Swyddfa Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn y Ganolfan Ddinesig, Port Talbot SA13 1PJ yn ystod yr amserau a nodir isod.
- Rhaid cyflwyno’r papurau enwebu i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu, Canolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ rhwng 10:00am a 4:00pm ar unrhyw ddiwrnod gwaith ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwn ond nid hwyrach na 4:00pm dydd Gwener, 5 Ebrill 2024.
- Gellir talu’r ernes ar gyfer pob ymgeisydd, sef swm o bum mil o bunnoedd (£5,000), i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu erbyn 4:00pm dydd Gwener, 5 Ebrill 2024, drwy drosglwddiad banc uniongyrchol, draft banc (banciau sy’n weithredol yn y Deyrnas Unedig yn unig) neu ar ffurf arian parod (punnoedd Prydeinig yn unig).
- Os ymleddir yr etholiad, cynhelir y bleidlais dydd Iau, 2 Mai 2024.
- Bydd yn rhaid i geisiadau i gofrestri ar gyfer yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol (fel y dangosir isod) erbyn 11:59pm ar dydd Mawrth, 16 Ebrill 2024. Gellir gwneud ceisiadau ar-lein www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.
- Dylai etholwyr a’u dirprwyon nodi bod yn rhaid i bob cais ar gyfer pleidleisiau post a phleidleisiau post drwy ddirprwy, newydd a chyfredol, neu gais i’w newid neu eu diddymu gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol (fel y dangosir isod) erbyn 5:00pm dydd Mercher, 17 Ebrill 2024. Mae hyn yn cynnwys etholwyr a’u dirprwyon sy’n dymuno gwneud newidiadau parhaol i’w trefniadau presenol. Gellir gwneud cais i gael bleidlais post ar-lein www.gov.uk/gwneud-cais-pleidlais-drwyr-post.
- Mae’n rhaid i geisiadau newydd i bleidleisio drwy ddirprwy (nid pleidleisiau dirprwy drwy’r post na phleidleisiau dirprwy mewn argyfwng) gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol (fel y dangosir isod) erbyn 5:00pm dydd Mercher, 24 Ebrill 2024. Gellir gwneud cais i gael bleidlais drwy ddirprwy ar-lein www.gov.uk/gwneud-cais-pleidlais-drwy-ddirprwy.
- Rhaid i geisiadau am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr neu Ddogfen Etholwr Anhysbys sy’n ddilys ar gyfer yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol (fel y dangosir isod) erbyn 5:00pm ar ddydd Mercher, 24 Ebrill 2024. Gellir gwneud ceisiadau am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr ar-lein www.gov.uk/ceisio-am-lun-id-tystysgrif-awdurdod-pleidleiswyr.
- Mae’n rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng yn yr etholiad hwn ar sail anallu corfforol neu am resymau gwaith/gwasanaeth gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol (fel y dangosir isod) erbyn 5:00pm ddydd Iau, 2 Mai 2024. Mae’n rhaid bod yr analluedd corfforol wedi digwydd ar ôl 5:00pm ddydd Mercher, 24 Ebrill 2024. I wneud cais ar sail gwaith/gwasanaeth mae’n rhaid bod y person wedi dod yn ymwybodol na fyddant yn gallu fynd i’r orsaf bleidleisio’n bersonol ar ôl 5:00pm dydd Mercher, 24 Ebrill 2024.
SIR / |
CYSWLLT – Y SWYDDOG COFRESTRU ETHOLIADOL | RHIF FFÔN | E-BOST |
---|---|---|---|
Pen-y-bont ar Ogwr |
Swyddfeydd Dinesig, |
01656 643116 |
electoral |
Caerdydd |
Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd |
029 2087 2088 |
gwasanaethauetholiadol |
Merthyr Tudful |
Canolfan Ddinesig, Stryd y Castell |
01685 725284 |
electoral |
Castell-nedd Port Talbot |
Canolfan Ddinesig, |
01639 763330 |
etholiadau |
Rhondda Cynon Taf |
10-12 Heol Gelliwastad, Pontypridd CF37 2BW |
01443 490100 |
gwasanaethauetholiadol |
Abertawe |
Gwasanaethau Etholiadol, |
01792 636123 |
etholiadau |
Bro Morgannwg |
Gwasanaethau Etholiadol, |
01446 729552 | cofrestruetholiadol@ bromorgannwg.gov.uk |
Dyddiedig: Dydd Llun, 25 Mawrth 2024
Ganolfan Ddinesig
Port Talbot
SA13 1PJ
Karen Jones
Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu De Cymru
Argraffwyd a chyhoeddwyd gan y Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu De Cymru