Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Hysbysiad Anerchiadau Etholiadol

Ethol Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer Ardal Heddlu De Cymru - 2 Mai 2024

Yn unol â pharagraff 2, Atodlen 8, Rhan 1 o Orchymyn Etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu 2012 (fel y’i diwygiwyd), rhaid I Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu roi hysbysiad cyhoeddus ynghylch yr amser hwyraf i ymgeiswyr sy’n sefyll yn yr etholiad hwn gyflwyno eu hanerchiad etholiadol.

Y dyddiad cau i ymgeiswyr gyflwyno eu hanerchiad etholiadol fydd 12:00pm ddydd Gwener 5 Ebrill 2024.

  1. Rhaid i’r anerchiad etholiadol gael ei baratoi gan asiant yr ymgeisydd ar y ffurflen ragnodedig, rhaid iddo gynnwys datganiad sy’n nodi iddo gael ei baratoi gan asiant yr ymgeisydd a rhaid iddo gael ei gyflwyno’n uniongyrchol i’r system ar-lein electronig i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu erbyn yr amser uchod.
  2. Rhaid rhoi enw a chyfeiriad yr asiant etholiadol hefyd.
  3. Rhaid cyflwyno’r anerchiad etholiadol yn y Gymraeg neu’r Saesneg a chaiff yr asiant etholiadol gyflwyno cyfieithiad hefyd i’r Saesneg neu’r Gymraeg sy’n gyfieithiad cyflawn a chywir.
  4. Rhaid i'r anerchiad etholiadol nodi enw’r ymgeisydd a rhaid iddo gynnwys deunydd sy’n ymwneud â’r etholiad uchod yn unig.
  5. Rhaid i’r anerchiad etholiadol beidio â chynnwys unrhyw ddeunydd hysbysebu (heblaw deunydd sy’n hyrwyddo’r ymgeisydd fel ymgeisydd yn yr etholiad).
  6. Rhaid i’r anerchiad etholiadol beidio â chynnwys unrhyw ddeunydd sy’n cyfeirio at unrhyw ymgeisydd arall ar gyfer yr etholiad.
  7. Rhaid i’r anerchiad etholiadol beidio ag ymddangos i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu i fod yn cynnwys unrhyw ddeunydd sydd â’r bwriad o sicrhau budd masnachol, nac ychwaith fod yn anweddus, yn anllad neu’n a chyflawni trosedd.
  8. Rhaid i’r anerchiad etholiadol beidio â bod yn gyhoeddiad neu’n ddosbarthiad a fyddai’n debygol o fod yn gyfystyr â chyflawni trosedd.
  9. Rhaid i unrhyw ffotograff sy’n dangos yr ymgeisydd a gaiff ei gynnwys yn yr anerchiad etholiadol beidio â dangos neb arall a rhaid iddo gydymffurfio â pharagraffau 5 i 8 uchod.
  10. Caiff yr anerchiad etholiadol gynnwys cynrychioliad o arwyddlun cofrestredig, neu (yn ôl fel y digwydd) un o arwyddluniau cofrestredig plaid wleidyddol gofrestredig, os paratoir ur anerchiad ar ran ymgeisydd plaid awdurdodedig.
  11. Pan baratoir anerchiad etholiadol ar ran ymgeisydd plaid awdurdodedig, caiff yr anerchiad gynnwys disgrifiad o dan adran 28A o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadol a Refferenda 2000 neu, os yw’r disgrifiad wedi’i gofrestru i’w ddefnyddio gan ymgeiswyr dwy blaid neu fwy, o dan adran 28B y Ddeddf honno.
  12. Mae’n rhaid bod modd cynhyrchu’r anerchiad etholiadol ar ffurf copi caled a chydymffurfio â gofynion y ffurflen ragnodedig.

Dyddiedig:  Dydd Llun, 25 Mawrth 2024
Ganolfan Ddinesig 
Port Talbot
SA13 1PJ

Karen Jones

Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu De Cymru

Argraffwyd a chyhoeddwyd gan y Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu De Cymru