Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Nodau Addysgol

Ein prif bryder fel gweithwyr diogelwch ar y ffyrdd yng Nghastell-nedd Port Talbot yw diogelwch holl ddefnyddwyr y ffordd. Rydym yn darparu addysg ac arweiniad i gerddwyr a defnyddwyr eraill y ffordd.

Er mwyn parhau â'r neges Diogelwch y Ffyrdd mewn ysgolion, rhydym yn darparu nodiadau addysgu a gweithgareddau dosbarth i athrawon. Er mwyn hyrwyddo addysg diogelwch ar y ffyrdd i blant, rhydym yn cefnogi rhieni, gofalwyr, staff ysgol ac athrawon ar arfer gorau a pha adnoddau sydd ar gael iddynt. Mae ein tîm yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y dechnoleg ddiweddaraf ac yn sicrhau bod ein darpariaeth yn cysylltu â chwricwlwm newydd Cymru 2022.

Mae gwaith partneriaeth yn rhan annatod o'n darpariaeth addysg i bob oedran. Rydym yn gweithio'n agos gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Heddlu De Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Eco-Ysgolion a Chwarae Cymru i enwi ond ychydig.