Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Caffi ym maes parcio Camlas Resolfen

Prydles

Mae’r Cyngor yn ceisio datblygu cyfle i ymgeiswyr greu a datblygu busnes cynaliadwy hirdymor ac felly bydd angen i ymgeiswyr ymrwymo i brydles am gyfnod o 25 mlynedd. Bydd cymal terfynu tenant yn unig sy’n rholio yn flynyddol wedi’i ymgorffori yn y brydles sy’n arferadwy ar 1af o Dachwedd ym mhob blwyddyn, a bydd angen o leiaf chew (6) mis o rhybudd ysgrifenedig ymlaen llaw.

Rhent/premiwm

Cynigion dros £5000 y flwyddyn.

Llety

  • Adeilad y Caffi: AMG oddeutu 55m2 (592 troedfedd sgwâr)
  • Arwynebedd y safle: 0.774 erw
  • Tiroedd helaeth
  • Wedi’i drawsnewid a'i adnewyddu'n ddiweddar, ac yn gyfagos â thoiledau cyhoeddus yng ngweddill yr adeilad
  • Lle i oddeutu 17 o seddi yn y caffi
  • Digonedd o leoedd parcio ar gael
  • Wedi'i leoli oddi ar yr A465 yn Resolfen
  • Lleoliad ar gyrion tref ac yn agos at y cyrchfan ymwelwyr poblogaidd Gwlad y Sgydau.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Michael Jones
(01639) 686694 (01639) 686694 voice +441639686694

Ariennir y prosiect hwn yn rhannol gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd.

Cafe maes parcio Resolfen