Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Lleoedd bywiog a hyfyw

vvp map

Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yw fframwaith adfywio Llywodraeth Cymru a lansiwyd ym mis Mawrth 2013. Mae'r gronfa'n canolbwyntio ar weithgareddau adfywio yng nghanol trefi gyda phwyslais ar wella cyflenwad tai.

Yr amcan yw creu canol trefi mwy hyblyg ac amrywiol nad ydyn nhw'n canolbwyntio'n llwyr ar ddarpariaeth manwerthu, ond sy'n annog pobl sy'n byw yng nghanol y dref i gynyddu ac ehangu bywiogrwydd y dref.

Mae pwyslais hefyd ar raglenni i ddarparu cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth ychwanegol mewn ardaloedd difreintiedig.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi derbyn dros £12.5m gan Raglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru i dargedu prosiectau adfywio ym Mhort Talbot.

Mae'r cyllid yn rhan o raglen adfywio gwerth £35m gyda phwyslais ar ddarparu tai a fydd yn cael ei chyflwyno yng nghanol y dref tan ddiwedd y cynllun gan Lywodraeth Cymru. Ei bwriad yw trawsnewid amgylchedd byw a gweithio'r dref trwy ddod â chyfleoedd datblygu a chyflogaeth newydd iddi a chreu lle mwy cynhwysol, ffyniannus, iachus a chynaliadwy i fyw a gweithio ynddo.

Bydd y rhaglen tair blynedd yn trawsnewid y dref yn wirioneddol ac yn cefnogi blaenoriaeth strategol Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

Bydd y rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn cyd-gysylltu â'r datblygiad yng Nglannau'r Harbwr ym Mhort Talbot, sydd â'r potensial i greu 2,000 o swyddi. Mae hi hefyd yn cyd-gysylltu â gweithgareddau adfywio sydd eisoes wedi cychwyn yn yr ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf cyfagos, sef Sandfields ac Aberafan, a chyda'r datblygiadau newydd ar Lan Môr Aberafan. Bydd y cyngor yn cyd-weithio'n agos â phartneriaid cyflawni dros gyfnod tair blynedd y rhaglen er mwyn mwyafu'r buddion cyflogaeth lleol.

Bydd y rhaglen yn cyflwyno:

  • 140 o gartrefi fforddiadwy newydd
  • Gwelliannau i 354 o gartrefi preswyl sydd mewn cyflwr gwael
  • 84 o swyddi adeiladu dros dro
  • 2000m2 o arwynebedd llawr ychwanegol i fusnesau
  • 30 o leoliadau hyfforddiant ar gyfer prentisiaid neu geiswyr gwaith
  • £9m mewn cadwyni cyflenwi sydd wedi'u lleoli yng Nghymru
  • 20 o fusnesau newydd

Mae rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Port Talbot yn cynnwys y prosiectau canlynol:

Pa brosiectau fydd yn digwydd ym Mhort Talbot

Ailddatblygu Parc Gwyrdd

Datblygiad tai Parc Gwyrdd a gyflwynir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Grŵp Tai Coastal am gost o £4.5m yw'r cynllun tai cyntaf i elwa o gyllid Llywodraeth Cymru trwy'r rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid (VVP), gan drawsnewid safle tir llwyd yn stad tai o 34 o gartrefi fforddiadwy sy'n cynnwys tai, byngalos a fflatiau.

Mae'r stad yn agos iawn i ganol y dref ac mae'n gyfagos i afon Afan. Mae'n creu lle agored cymunedol newydd ac mae ganddo gysylltiadau gwell rhwng canol y dref â'r glannau.

Green Park

Canolfan Gyflogadwyedd a Gwybodaeth

Mae gwaith adfer yr hen orsaf dân ar Stryd y Dŵr ym Mhort Talbot bellach wedi ei gwblhau. Mae'r adeilad a oedd mewn cyflwr gwael, sy'n eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, wedi cael ei drawsnewid i ganolfan cyflogadwyedd a gwybodaeth ar gyfer y gymuned leol. Agorodd y ganolfan ei drysau i'r cyhoedd ym mis Mehefin 2016.

A hithau'n cael ei rheoli gan yr elusen gofrestredig NSA Afan, mae'r ganolfan yn cyflwyno hyfforddiant mewn sgiliau cyflogadwyedd un i un, gan helpu i gefnogi pobl leol sy'n ddi-waith neu sydd wedi bod yn ddi-waith ers amser hir i feithrin sgiliau newydd neu wella'r sgiliau sydd ganddynt yn barod gyda'r nod o sicrhau cyflogaeth a thâl.

Employability and Information Centre

Cysylltiadau a Hygyrchedd

Bydd dau gynllun cysylltiadau a hygyrchedd yng nghanol y dref a'i gyffiniau yn gwella cysylltiadau a hygyrchedd i gerddwyr a beicwyr. Bydd yn creu mynediad hawdd i ardaloedd cyflogaeth, tai, manwerthu a hamdden gan gynnwys mynediad i lan môr Aberafan a Chwm Afan.

Mae'r prosiect Llwybr yr Harbwr, sydd wedi'i ariannu'n rhannol gan gyllid Ewropeaidd a Lleoedd Llewyrchus, bellach wedi'i gwblhau. Fe'i dyluniwyd i gysylltu ardal Glannau'r Harbwr ym Mhort Talbot â chanol y dref, Gorsaf Drenau Port Talbot Parkway ar ei newydd wedd yn dilyn gwaith adfer gwerth £11m, a hwb trafnidiaeth integredig sy'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd.

Mae'r ail gynllun ar waith ar hyn o bryd, sef Llwybr Glan Afon Parc Gwyrdd. Fe'i dyluniwyd i gysylltu glan môr Aberafan â chanol y dref.

Connections

Datblygiad Tai ar Safle Ysgol Glan Afan

Mae'r hen Ysgol Gyfun Glan Afan yn safle canol tref allweddol lle bydd buddsoddiad o £5.7m yn galluogi datblygu cymysgedd o gartrefi ac unedau masnachu.

Bydd y safle yn cael ei ailddatblygu gan Grŵp Tai Coastal a bydd yn darparu 43 o unedau preswyl a 5 uned fasnachol. Mae'r safle mewn lleoliad amlwg ym mhrif ardal siopa'r dref a bydd creu llety newydd a lle masnachol yn ailfywiogi'r rhan hon o Bort Talbot.

Glanafan school photo

Cartrefi Uwchben y Siopau

Bydd y prosiect Cartrefi Uwchben Siopau yn helpu i adnewyddu ac atgyweirio adeiladau presennol sy'n rhan o hanes a threftadaeth Port Talbot.

Bydd hefyd yn helpu i ateb y galw am dai lleol mewn ardal flaenllaw yng nghanol y dref.

Image of Station Road

Hwb Trafnidiaeth Integredig Port Talbot

Mae gwaith adeiladu wedi dechrau ar hwb trafnidiaeth integredig newydd Port Talbot, ym mhen isaf Heol yr Orsaf, wrth ochr Orsaf Drenau Port Talbot Parkway.

Bydd yr hwb yn hwyluso mynediad i ardaloedd cyflogaeth a phreswyl yn y dref. Bydd hefyd yn helpu cymunedau yn ardaloedd cyfagos y cymoedd i gael mynediad i gyflogaeth, dysgu a chyfleoedd eraill yn y dref.  Mae'r gwaith yn rhan o gynlluniau adfywio ehangach y cyngor ar gyfer canol tref Port Talbot a Glannau'r Harbwr.

Bydd y prosiect gwerth £5.6m, sy'n cael ei adeiladu gan gwmni Andrew Scott Ltd o Bort Talbot, yn cyd-fynd â gwaith gwerth £11.3m i ailddatblygu Gorsaf Drenau Port Talbot Parkway gan Network Rail.

Ariennir y cynllun gan raglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru, cronfa drafnidiaeth leol, a Chronfeydd Strwythurol Ewropeaidd.

Port Talbot Parkway

Ailddatblygu'r Hen Orsaf yr Heddlu

Caiff fflatiau ac unedau masnachol eu datblygu ar safle'r hen orsaf heddlu yng nghanol tref Port Talbot.

Mae'r safle yn borth allweddol i ganol y dref, yn agos iawn i Orsaf Drenau Port Talbot Parkway newydd ei ddatblygu a'r hwb trafnidiaeth integredig sy'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd.

Bydd Grŵp Pobl yn buddsoddi £4m i greu 30 o unedau preswyl newydd ar y ddau lawr uchaf ac arwynebedd llawr masnachol ar y llawr gwaelod.

Port Talbot police station

Canolfan ar gyfer Diwylliant a’r Celfyddydau

Caiff hen sinema eiconig y Plaza yng nghanol y dref ei drawsnewid yn ganolfan ar gyfer diwylliant a’r celfyddydau. Mae’r adeilad rhestredig Gradd 2 ym mhen isaf Heol yr Orsaf, yn agos at yr orsaf drenau a phrosiectau Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid eraill. Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot sy’n berchen ar yr adeilad ac mae’n gweithio’n agos â grwpiau a sefydliadau lleol ar y datblygiad. Mae’n ceisio cyfleoedd arian cyfatebol ac mae cynllun busnes manwl yn cael ei baratoi gan ymgynghorydd annibynnol.

Plaza

Adnewyddu Cymdogaethau

Ffocws y prosiect hwn yw gwella tai yn ardal Port Talbot sydd â lefel uchel o dlodi tanwydd ac y mae angen gwaith atgyweirio arni.

Buddsoddwyd £2.9m dros ddwy flynedd gyntaf y cynllun gyda'r nod o gyflawni gwaith adnewyddu a moderneiddio i oddeutu 300 o gartrefi dros gyfnod tair blynedd y rhaglen Lleoedd Llewyrchus. Bydd y rhaglen yn sicrhau bod cartrefi'n ddiogel, yn ddiddos ac yn fwy ynni-effeithlon, gan helpu i leihau nifer y cartrefi lle mae tlodi tanwydd.

Caiff y prosiect ei gyflawni gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot trwy ddefnyddio contractwyr adeiladu lleol.

Housing renewal

Menter Troi Tai’n Gartrefi

Mae’r prosiect hwn yn cynnig cyfle i berchnogion cartrefi a landlordiaid yn ardal y Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid wneud cais am fenthyciad di-log i wneud gwaith adnewyddu i’w heiddo.

Sicrhawyd bod £600,000 ar gael a bydd pob benthyciad yn werth rhwng £1,000 a £25,000. Gellir ad-dalu hwn dros gyfnod o hyd at bum mlynedd i landlordiaid a 10 mlynedd i berchnogion preswyl.

Nod y gwaith yw gwneud yr eiddo’n ddiogel ac yn gynnes i wella’r stoc dai yn yr ardal hon.

Wrth i fenthyciadau gael eu had-dalu, gellir eu defnyddio eto gan ganiatáu mwy o bobl i fanteisio ar y fenter.

Caiff y cynllun ei weinyddu gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.

Homes to homes

Tŷ Aberafan

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cymeradwyo cynlluniau a gyflwynwyd gan gwmni o Abertawe, Hacer Developments, i ailddatblygu Tŷ Aberafan yn 41 o fflatiau gwahanol.

Bydd y cynllun ailddatblygu gwerth £4.7m, a ddyluniwyd gan Powell Dobson Architects mewn ymgynghoriad â Chomisiwn Dylunio Cymru, yn cael ei gyflawni gan Hacer Developments, mewn partneriaeth â Grŵp Pobl (Gwalia gynt).

Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i gywirio'r prinder tai yn y gymuned ac yn gwella bywiogrwydd Port Talbot drwy ddarparu mwy o ymwelwyr a thrwy gyflwyno mwy o anheddau preswyl yng nghanol y dref.

Bydd y datblygiad hefyd yn gwella'r ardal gyfagos, gan gynnwys goleuadau stryd gwell, rheseli beiciau i breswylwyr, a meinciau a chelfi stryd ar hyd y llwybr glan afon i greu man mwy diogel a chroesawgar i breswylwyr ac aelodau eraill y cyhoedd cyhoedd.

Aberafan House