Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Prydau ysgol am ddim

O fis Medi 2022, mi fydd plant Dosbarth Derbyn, am ddim yn awtomatig.

Bydd pob plentyn ym mlynyddoedd 1 a 2 nawr yn derbyn prydau ysgol am ddim o ddydd Llun 7fed o Dachwedd 2022 (ar ôl hanner tymor mis Hydref).

Bydd pob plentyn ym mlynyddoedd 3 a 4 nawr yn derbyn prydau ysgol am ddim o ddydd Llun 17fed o Ebrill 2023

Bydd pob plentyn ym mlynyddoedd 5 a 6 yn cael prydau ysgol am ddim Cynradd Cyffredinol o fis Medi 2023.

Erbyn 2024, bydd pob plentyn ysgol gynradd gwladol yng Nghymru yn cael prydau ysgol am ddim.

Os ydych yn derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau a amlinellir isod, dylech gofrestru ar gyfer pryd ysgol am ddim oherwydd efallai y bydd gennych hawl i Grant Hanfidion Ysgol.

Rhagor o wybodaeth ar wefan Llwyodraeth Cymru ar wefan.

Meini Prawf Hawlio Prydau am Ddim

Mae prydau ysgol am ddim ar gael i ddisgyblion cymwys sy'n mynd i'r ysgol yn llawn amser. Maen nhw’n cynnwys:

  • plant iau sy'n gwneud diwrnodau llawn yn y meithrin
  • disgyblion ysgol chweched dosbarth

 Mae'n bosib y bydd disgybl yn gallu cael prydau ysgol am ddim os yw ei riant neu warcheidwad yn cael un o'r canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag Incwm
  • Cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • Elfen gwarant Credyd Pensiwn
  • Credyd Treth Plant (ar yr amod nad oes gennych hawl i gael Credyd Treth Gwaith hefyd ac nad yw eich incwm blynyddol yn fwy nag £16,190 cyn treth)
  • Credyd Treth Gwaith am gyfnod ychwanegol – a delir am bedair wythnos pan nad ydych yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith mwyach
  • Credyd Cynhwysol – rhaid i enillion eich aelwyd fod yn llai na £7,400 y flwyddyn ar ôl treth. Nid yw hyn yn cynnwys incwm o fudd-daliadau.

Gallai disgyblion sy'n cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm eu hunain allu cael prydau ysgol am ddim hefyd.
Yn ôl y gyfraith, nid oes unrhyw gategori arall o gymhorthdal neu gyfuniado gredydau treth sy'n gymwys ar gyfer prydiau ysgol am ddim. Yn yr un modd, nid oes unrhyw amgylchiadau eraill sy'n gallu, yn nhermau'r gyfraith, gyfiawnhau darparu pryd am ddim. Nid yw Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Gyfraniadau, Credyd Treth Gwaith a Budd-dal Annalluogrwydd yn gymwys; nid yw derbyn Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith yn eich cymhwyso chwaith.

Mae'n rhaid i blant sy’n dechrau’r ysgol am y tro cyntaf lenwi ffurflen gais am brydau ysgol am ddim, hyd yn oed os oes ganddynt frawd neu chwaer yn yr un ysgol neu mewn ysgol arall sydd eisoes yn eu cael. Ni fydd dyfarniadau’n cael eu gwneud yn awtomatig pan fo brodyr neu chwiorydd yn derbyn prydau ysgol am ddim.

Sylwir: Ni chaiff ceisiadau am Brydau Ysgol am Ddim eu hol-ddyddio.

Os Ydych yn gorffen derbyn cymorthaliadau neu os ydych yn newid i fath arall o gymorthdal, rhaid i chi roi gwybod i'r Tim Cefnogi Ysgolion a Theuluoedd ar unwaith. Efallai na fydd eich plentyn yn gymwys mwyach i dderbyn prydiau ysgol am ddim. Os ydych yn parhau i hawlio prydiau am ddim nad oes hawl gennychi'w dderbyn, bydd  gofyn i chi dalu am y prydiau a ddarperir a gellid cymryd camau ychwanegol.

Newidiadau o 1 Ebrill 2019

Bydd unrhyw ddisgybl sy’n gymwys i brydau ysgol am ddim ar y 1 Ebrill 2019 yn cael ei gymhwysedd wedi ei ddiogelu. Bydd hyn yn berthnasol i’r holl ymgeiswyr tan ddiwedd lledaenu Credyd Cynhwysol (sydd wedi ei amserlennu ar hyn o bryd yn Rhagfyr 2023), boed eu hamgylchiadau’n newid ai peidio. 

Bydd unrhyw ddisgybl sy’n dyfod yn gymwys o dan y meini prawf a ddiwygiwyd yn ystod y cyfnod lledaenu Credyd Cynhwysol (o 1 Ebrill 2019 tan Ragfyr 2023) hefyd yn cadw ei gymhwysedd nes diwedd lledaenu Credyd Cynhwysol, boed eu hamgylchiadau’n newid ai peidio. 

Ar ôl i ledaenu Credyd Cynhwysol gael ei gwblhau, bydd unrhyw blentyn gaiff ei ddiogelu o ran trosglwyddo yn parhau i gael ei ddiogelu o ran trosglwyddo tan ddiwedd cyfnod cyfredol ei addysg e.e. cynradd / uwchradd.

Sut I wneud cais

Gwnewch gais ar-lein neu lawrlwythwch a llenwch y ffurflen isod.

Gwnewch gais ar-lein neu lawrlwythwch a llenwch y ffurflen isod.

  • Prydau Ysgol Am Ddim 2023-2024 (DOCX 44 KB) (DOCX 44 KB)

    i.Id: 3205
    i.ContentType.Alias: nptFile
    mTitle: Prydau Ysgol Am Ddim 2023-2024 (DOCX 44 KB)
    mSize: 44 KB
    mType: docx
    i.Url: /media/w0uhss0o/prydau-ysgol-am-ddim-2023-2024.docx

Dylid dychwelwch ffurflenni at:

Cyfarwyddiadau i SA13 1PJ
Tim Cefnogi Plant a Theuluoedd
Y Ganolfan Ddinesig Port Talbot Castell-nedd Port Talbot SA13 1PJ pref
(01639) 763515 (01639) 763515 voice +441639763515

Adnewyddu prydiau ysgol am ddim

Os ydych eisoes yn hawlio prydiau ysgol am ddim i'ch plentyn ar gyfer pob blwyddyn ysgol newydd, bydd yr hawliad hwn yn dilyn eich plentyn yn awtomatig. Fodd bynnag, os bydd eich plentyn yn symud i ysgol newydd (h.y symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd, dechrau yn y dosbarth derbyn neu drosglwyddo i ysgol o fewn Castell-nedd a Port Talbot), bydd rhaid cyflwyno cais newydd.

Rhaglen Bwyd a Hwyl

Rhai ein ysgol sy'n ymuno mewn rhaglen Bwyd a Hwyl. Yn ystod gwyliau’r haf, mae'n darparu i blant:

  • addysg am fwyd a maeth
  • gweithgarwch corfforol
  • sesiynau cyfoethogi
  • phrydau bwyd iach

Help gyda chostau byw - Llywodraeth Cymru