Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cael help gyda hanfodion ysgol

Trosolwg

Os ydych chi’n riant neu’n warcheidwad i blentyn mewn addysg rhwng dosbarth derbyn a blwyddyn 11, efallai eich bod yn gymwys i dderbyn grant i'ch helpu chi i dalu am eitemau hanfodol.

Enw swyddogol y grant yw grant Hanfodion Ysgol.

Faint sydd ar gael

Ar gyfer blwyddyn ysgol 2023 i 2024, mae’r grant yn:

  • £125 ar gyfer plant sy’n gymwys
  • £200 ar gyfer plant blwyddyn 7

Sut y gallwch chi ei ddefnyddio

Gallwch ddefnyddio’r grant i dalu am:

  • gwisg ysgol, cotiau ac esgidiau
  • dillad ac offer chwaraeon
  • offer ar gyfer gweithgareddau ysgol, yn cynnwys gwersi cerdd, dysgu awyr agored a chlybiau ar ôl ysgol
  • offer i'r ystafell ddosbarth yn cynnwys beiros, pensiliau a bag ysgol
  • offer a deunyddiau ar gyfer pynciau a chyrsiau newydd

Meini prawf

  • Cymorth Incwm 
  • Lwfans Ceisio Gwaith 
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 
  • Credyd Treth Plant - cyhyd â bod eich incwm blynyddol yn £16,190 neu lai cyn treth ac nid ydych yn derbyn Credyd Treth Gwaith 
  • Credyd Pensiwn 
  • Credyd Cynhwysol - rhaid i enillion eich cartref fod yn llai na £7,400 y flwyddyn ar ôl treth. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw incwm o fudd-daliadau 
  • deddf Mewnfudo a Cheiswyr Lloches 1999. Efallai y byddwch yn gymwys os nad oes gennych hawl i arian cyhoeddus (NRPF). 

Gwnewch gais i'r Awdurdod Lleol lle mae'r plentyn yn mynychu'r ysgol.  Efallai y byddwch hefyd yn gymwys ar gyfer: 

Gwneud cais

Gallwch wneud cais o’r 1 Gorffennaf 2023 i 31 Mai 2024.

I wneud cais, byddwch angen:

  • manylion cyswllt
  • ene ysgol eich plentyn

Dim ond unwaith y plentyn y flwyddyn y gallwch hawlio.

Am gymorth pellach gyda'r cais neu unrhyw gwestiwn, cysylltwch:

Cyfarwyddiadau i SA13 1PJ
Tîm Cefnogi Plant a Theuluoedd
Y Ganolfan Ddinesig Port Talbot Castell-nedd Port Talbot SA13 1PJ pref
(01639) 763515 (01639) 763515 voice +441639763515