Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Bydd prosiect Cynnydd

Bydd y prosiect Cynnydd yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 11 a 24 oed sydd mewn perygl o fod yn NEET (Nid mewn Cyflogaeth, Addysg na Hyfforddiant).

Arweinir Cynnydd gan Gyngor Sir Penfro ac fe’i cyflwynir mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a Cholegau AB ynghyd â Gyrfa Cymru yng Ngheredigion, Sir Benfro, Sir Gâr, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Bydd darparwyr hyfforddiant preifat a’r trydydd sector hefyd yn cymryd rhan.

Ariennir y prosiect gwerth £35 miliwn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a bydd yn gweithio gydag oddeutu 7,500 o bobl ifanc ar draws de-orllewin Cymru. 

Yng Nghastell-nedd Port Talbot (CNPT), mae Cynnydd yn darparu Gweithiwr Cynnwys Ieuenctid i gefnogi pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed. Mae ein gweithwyr yn cysylltu â’r holl ysgolion uwchradd yn CNPT gan gynnwys Ysgol Hendrefelin a byddant yn gweithio gyda phobl ifanc i oresgyn neu reoli unrhyw faterion sy’n cyfrannu at eu hymddieithrio rhag addysg brif ffrwd. 

Mae Cynnydd hefyd yn darparu arian ar gyfer cefnogaeth ychwanegol yn y tîm MEAS. Mae’r tîm hefyd yn gweithio’n agos gyda Choleg CNPT a Gyrfa Cymru i gefnogi pobl ifanc Cynnydd i fynd ymlaen i addysg bellach, hyfforddiant a chyflogaeth.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Liz Dennis
Senior Uwch-reolwr Lles pref
(01639) 763514 (01639) 763514 voice +441639763514