Datganiad I'r Wasg
Strategaeth Dreftadaeth newydd y Cyngor yn gwarchod a hybu asedau hanesyddol a naturiol unigryw’r ardal
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi mabwysiadu Strategaeth Dreftadaeth i sicrhau cadwraeth, gwarchodaeth a chynaliadwyedd ein hamgylchedd hanesyddol a naturiol cyfoethog ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae’r strategaeth, a elwir yn Adfer, Adfywio, Ailbwrpasu, yn ymdrin â’r cyfnod 2024-2039.
Llwyddodd y Cyngor i sicrhau arian o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn 2020 i ddarparu Prosiect Treftadaeth CnPT, oedd yn cynnwys datblygu Strategaeth Dreftadaeth a chefnogaeth i grwpiau cymunedol sy’n chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo a gwarchod ein treftadaeth a’n hamgylchedd hanesyddol.
Mae asedau treftadaeth Castell-nedd Port Talbot yn chwarae rhan bwysig o ran cynyddu apêl yr ardal fel lle i fyw, gweithio a buddsoddi ynddo ac i ymweld ag ef. Ymysg yr asedau hyn mae Adeiladau Rhestredig, Adeiladau o Bwysigrwydd Lleol, Camlesu, Ardaloedd Cadwraeth, Tirweddau Hanesyddol, Cofebion, Parciau a Gerddi Hanesyddol Rhestredig, Meysydd Brwydrau a Llongddrylliadau.
Gan weithio’n greadigol gyda rhanddeiliaid allweddol, gall y cyngor reoli a gwarchod amgylcheddau hanesyddol er mwyn helpu i adeiladu dyfodol cadarnhaol i bawb. Mae themâu’r strategaeth yn rhoi sylw i’r angen i roi gwerth ar ein hamgylchedd hanesyddol a gweithio ar y cyd gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i weithredu ymyriadau pellgyrhaeddol a hirdymor i gyflawni’r nodau hyn.
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn parhau i gefnogi cam nesaf Prosiect Treftadaeth CnPT ac mae wedi cyhoeddi mai Castell-nedd Port Talbot yw un o’r naw ardal ym Mhrydain fydd yn elwa o gyfran o £200m i helpu i drawsnewid ein Hamgylchedd Hanesyddol drwy gyfrwng menter Mannau Treftadaeth newydd.
Yn ôl y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet y Cyngor dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: “Y neges glir gan ein preswylwyr pan geisiwyd eu barn mewn ymarferiad ymgynghori cyhoeddus ar y pwnc hwn oedd y dylid rhoi mwy o flaenoriaeth i’n treftadaeth a’n diwylliant.
“Mae’r strategaeth sydd newydd ei mabwysiadu’n cydnabod sut y mae ein hasedau treftadaeth yn chwarae rhan bwysig mewn cynyddu apêl y fwrdeistref sirol fel lle i fyw, gweithio a buddsoddi ynddi ac i ymweld â hi. Gan weithio’n greadigol â rhanddeiliaid allweddol, mae’n amlinellu sut y gallwn ni reoli a gwarchod ein hamgylchedd hanesyddol.
“Mae gan y strategaeth, law yn llaw â chyhoeddiad Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol am gefnogaeth ariannol sylweddol, y potensial i drawsnewid yr ardal hon gan ddefnyddio’i threftadaeth unigryw,”
Mae gweithio mewn partneriaeth yn greiddiol i sylweddoli uchelgais y strategaeth a gall pawb sydd â diddordeb ac ysfa o ran treftadaeth a’r amgylchedd hanesyddol chwarae’u rhan i sicrhau fod y Strategaeth Dreftadaeth a’i hamcanion yn llwyddo.
Mae’r Strategaeth Dreftadaeth yn gosod sylfeini ar gyfer gwarchodaeth, cadwraeth a chynaliadwyedd ein treftadaeth, a bydd yn darparu gwaddol hirdymor ar gyfer ein pobl a’n lleoedd.
Gallwch weld y strategaeth yma: https://beta.npt.gov.uk/cy/y-cyngor-democratiaeth-ac-etholiadau/strategaethau-a-pholisiau/strategaeth-treftadaeth-2024-2039/