Datganiad I'r Wasg
Diwrnod o weithgareddau wedi'u drefnu ym Mharc Gwledig Margam ar gyfer dechrau cymal olaf Tour of Britain 2023
Mae'r paratoadau olaf ar y gweill ym Mharc Gwledig Margam lle y bydd cymal olaf ysblennydd ras feicio Tour of Britain 2023 yn dechrau ddydd Sul (10 Medi).
I wylio dros 100 o feicwyr gorau'r byd yn cychwyn o Fargam am y llinell derfyn yng nghysgod Castell Caerffili, prynwch docyn parcio a dewiswch slot amser ar gyfer cyrraedd y parc gwledig.
Dolen ar gyfer prynu tocynnau parcio: https://bit.ly/45aKpmm
Ar ôl i'r timau gael eu cyflwyno o'r podiwm cychwyn o flaen adeilad hanesyddol Castell Margam cyn diweddglo hirddisgwyliedig y ras (cymal 8), bydd y Cynghorydd Cen Phillips, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant, yn gostwng y faner gychwyn.
Bydd y beicwyr yn brwydro dros goron pencampwr Tour of Britain hyd y diwedd ddydd Sul, diolch i gwrs godidog ond heriol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.
Cefnogir dechrau swyddogol Cymal 8 Tour of Britain 2023 gan Gyngor CNPT a Grŵp Colegau NPTC ‘Mwy Nag Addysg Yn Unig’.
Dywedodd Mark Dacey, Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Colegau NPTC: “Mae'n bleser gennym gefnogi'r digwyddiad beicio blaenllaw hwn wrth iddo ymweld â'n cymuned leol yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae'n rhoi cyfle i'n myfyrwyr a'n cymunedau weld rhai o enwau mwyaf y gamp yn dangos eu doniau ar ein ffyrdd gan roi cyfle hefyd i bobl gael hwyl yn rhoi cynnig ar feicio ac yn cymryd rhan mewn llawer o weithgareddau cyffrous ar y diwrnod.”
Hefyd, bydd cynrychiolwyr Day's Motor Group, sef cartref yr INEOS Grenadier 4x4 yng Nghymru, yn bresennol yn y digwyddiad i gefnogi tîm beicio INEOS Grenadiers ac i arddangos modelau diweddaraf yr INEOS Grenadier o ystafell arddangos y cwmni yng Nghastell-nedd.
Gall ymwelwyr â dechrau cymal olaf y ras hefyd wylio'r cymal i gyd yr holl ffordd i Gaerffili ar raglen ITV4 a fydd yn cael ei ffrydio'n fyw ar sgrin fawr o flaen y castell – dim ond un rhan o'r amrywiaeth o weithgareddau cyffrous yn y parc ddydd Sul, o saethyddiaeth i rasys beicio mynydd ‘Dirt Crit’ i bobl iau.
Mae disgwyl i fysiau timau Tour of Britain gyrraedd am 9.30am, cyn i'r ras ddechrau am 11.15am.
Gweithgareddau ychwanegol:
Sbortif Beicio Gwasanaeth Gweithgarwch Corfforol a Chwaraeon (PASS) CNPT a fydd yn cynnwys:
- Sesiynau rhoi cynnig ar feiciau cydbwyso
- Ardal sgiliau – cwrs beicio byr am ddim a sgorfwrdd treigl
- Sesiynau rhoi cynnig ar e-feiciau
- Taith feicio i deuluoedd o amgylch y llyn
Bydd aelodau o dîm rygbi'r Gweilch hefyd yn bresennol a bydd croeso i chi ymuno yn eu gweithgareddau.
Gweithgareddau eraill ddydd Sul:
- Rhoi cynnig ar saethyddiaeth gyda Saethwyr Margam
- Go Ape – anturiaethau rhaffau uchel ar agor o 12.30pm
- Antur Parc Margam – ar agor o 12.30pm
- Llogi beiciau mynydd a gwibgerti a gweithgareddau dŵr fel pedalos, canŵio, caiacio a phadlfyrddio sefyll
- Cwrdd â Dr Bike
- Cwrdd â thîm Hamdden Celtic – rhoddion am ddim, gemau a mwy
- Cyfle i fwynhau cyfleusterau’r parc yn ystod eich ymweliad!
Bydd uned RevoLOOtion ar y safle drwy gydol y digwyddiad, yn cynnig cyfleusterau toiled cwbl hygyrch.