Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

  • Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn rhoi hwb gwerth £1.5m i Gymoedd a Phentrefi ledled Castell-nedd Port Talbot
    12 Medi 2024

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi rhoi £1,473,357 o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU i amrywiaeth o brosiectau ledled ei gymoedd a'i bentrefi yn ystod 2023 a 2024, gan greu busnesau a swyddi newydd a rhoi hwb yr oedd ei fawr angen i'n cymunedau lleol.

  • Dewch am dro! Mae Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan ar agor.
    11 Medi 2024

    MAE'R cogydd addawol Lloyd Ryland a'r entrepreneur aml-fusnes lleol Ryan Thomas wedi uno i uwchraddio'r arlwy ar gyfer ymwelwyr yng Nghanolfan Ymwelwyr boblogaidd Coedwig Afan yng Nghastell-nedd Port Talbot.

  • Paratoadau olaf ar gyfer Ffair Medi Fawr Castell-nedd 2024!
    09 Medi 2024

    Mae'r trefniadau terfynol wrthi'n cael eu gwneud ar gyfer Ffair Medi Fawr hanesyddol Castell-nedd – un o'r ffeiriau siarter hynaf yn Ewrop.

  • Cynllun Cydraddoldeb Strategol ‘Byddwn yn Deg’ wedi’i fabwysiadu gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot
    09 Medi 2024

    Mewn cyfarfod llawn o Gyngor Castell-nedd Port Talbot ar 4 Medi, 2024, mabwysiadodd yr aelodau Gynllun Cydraddoldeb Strategol yr awdurdod (2024-2028) o'r enw ‘Byddwn yn Deg’ yn ffurfiol.

  • Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn Trafod Dyfodol Gwasanaethau Hamdden Dan Do
    06 Medi 2024

    Bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn trafod dyfodol ei wasanaethau hamdden dan do yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu ar Addysg, Sgiliau a Llesiant ddydd Iau, 12 Medi.

  • Y Cyngor yn cyhoeddi y bydd yn cynyddu capasiti er mwyn ymateb i gau'r pen trwm yn Tata
    04 Medi 2024

    Rhoddwyd gwybod i aelodau Cyngor Castell-nedd Port Talbot mewn cyfarfod o'r Cyngor llawn ar 4 Medi 2024 y bydd y Cyngor yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi busnesau a phobl y bydd newidiadau yn Tata Steel UK Ltd yn effeithio arnynt yn dilyn cyhoeddiad cyllid sylweddol a wnaed gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn 8fed cyfarfod Bwrdd Pontio Tata.

  • Annibyniaeth Ddigidol: Gwasanaeth CNPT yn helpu dros 300 o breswylwyr
    30 Awst 2024

    Mae mwy na 300 o breswylwyr o Gastell-nedd Port Talbot wedi defnyddio gwasanaeth am ddim y bwriedir iddo eu helpu i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain gan ddefnyddio technoleg.

  • Yn dod yn fuan – parc chwarae antur newydd gwerth £210,000 i Draeth Aberafan gyda Chawr Cefnfor rhyfeddol
    29 Awst 2024

    Mae parc chwarae antur fydd yn ‘gyrchfan’, a wnaed yn rhannol o wastraff wedi’i ailgylchu o’r cefnfor, ac yn cynnwys tŵr chwarae 8.9m o uchder gyda waliau dringo a llithren diwb gyffrous ar ei ffordd i Draeth Aberafan.

  • Cyngor i gynnal Digwyddiad Cefnogi Landlordiaid
    29 Awst 2024

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn bwriadu cynnal digwyddiad rhad ac am ddim ar gyfer landlordiaid sy’n gosod eiddo ar rent yn y fwrdeistref sirol. Nod y digwyddiad hwn yw rhannu gwybodaeth werthfawr ynghylch y gefnogaeth sydd ar gael a’r cyfleoedd am gyllid.

  • Fan-tastic! Fflyd werdd gynyddol cyngor yn cyrraedd carreg filltir 50 cerbyd
    28 Awst 2024

    Mae fflyd gynyddol Cyngor CASTELL-NEDD PORT TALBOT o gerbydau trydan ac allyriadau isel bellach wedi cyrraedd 50, wrth i’r cyngor barhau i wthio am ddyfodol glanach, gwyrddach.