Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Cyngor i gynnal Digwyddiad Cefnogi Landlordiaid

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn bwriadu cynnal digwyddiad rhad ac am ddim ar gyfer landlordiaid sy’n gosod eiddo ar rent yn y fwrdeistref sirol. Nod y digwyddiad hwn yw rhannu gwybodaeth werthfawr ynghylch y gefnogaeth sydd ar gael a’r cyfleoedd am gyllid.

Cyngor i gynnal Digwyddiad Cefnogi Landlordiaid

Bydd y Digwyddiad Cefnogi Landlordiaid yn digwydd yn Neuadd y Dref Castell-nedd (1-2 Church Place, Castell-nedd, SA11 3LL) ddydd Mawrth 10 Medi 2024, rhwng 5pm a 7pm (rhwydweithio o 4:30pm).

Bydd siaradwyr gwadd o Rent Smart Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot yno i rannu’u harbenigedd. Bydd gan fynychwyr gyfle hefyd i rwydweithio gyda landlordiaid eraill ac i siarad yn uniongyrchol â’r siaradwyr gwadd.

Yn ôl y Cynghorydd Alun Llewelyn, Aelod Cabinet dros Dai a Diogelwch Cymunedol: “Mae’r Digwyddiad i Landlordiaid Rhentu Preifat yn gyfle i landlordiaid ddysgu sut y gallan nhw gael gwybodaeth hanfodol ac adnoddau a allai fod o fudd gwirioneddol iddyn nhw.

“Gwyddom fod landlordiaid preifat yn chwarae rôl hanfodol yn y sector dai leol, ac rydyn ni’n awyddus i weithio’n agosach gyda nhw.”

Mae’r digwyddiad ar gyfer landlordiaid hen-sefydledig a all fod â phortffolio o eiddo ar rent, landlordiaid sydd newydd sefydlu, a landlordiaid ar hap (rhywun a all fod wedi’i gael ei hunan yn annisgwyl yn berchen ar dŷ y gallan nhw ei rentu).

I gadw eich lle ar gyfer y digwyddiad, anfonwch e-bost at Tia Montgomery  (t.montgomery@npt.gov.uk) neu Laura Cooper-Smith (l.cooper-smith@npt.gov.uk).

hannwch hyn ar: