Datganiad I'r Wasg
Annibyniaeth Ddigidol: Gwasanaeth CNPT yn helpu dros 300 o breswylwyr
30 Awst 2024
Mae mwy na 300 o breswylwyr o Gastell-nedd Port Talbot wedi defnyddio gwasanaeth am ddim y bwriedir iddo eu helpu i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain gan ddefnyddio technoleg.
Mae Gwasanaeth Galluogi Digidol Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ymweld ag unigolion yn eu cartrefi i asesu a allant elwa o dechnoleg i wneud tasgau beunyddiol yn haws. Caiff pob sesiwn ei theilwra i alluoedd a diddordebau'r person gan sicrhau bod y gefnogaeth yn diwallu ei anghenion.
Mae'r mathau o dechnoleg sydd ar gael yn cynnwys:
- Bylbiau a phlygiau clyfar - Gallwch reoli goleuadau a dyfeisiau o bell gan ddefnyddio'ch ffôn clyfar neu orchmynion llais.
- Botymau clyfar - Gallwch reoli amryfal ddyfeisiau clyfar yn eich cartref wrth wasgu botwm.
- Hybiau Wi-Fi - Dyfais gludadwy i alluogi mynediad at y rhyngrwyd
- Alexa Dot - Gallwch ddefnyddio gorchmynion llais i reoli seinydd clyfar i chwarae cerddoriaeth, cael gorsafoedd radio, newyddion, y tywydd a mwy.
Gall staff o'r gwasanaeth ymweld â phobl am hyd at awr unwaith yr wythnos gan ddibynnu ar eu hyder wrth ddefnyddio'r dechnoleg. Byddant hefyd yn helpu i osod y dechnoleg yng nghartref y person a'i addysgu sut i'w defnyddio.
Meddai un preswylydd sydd wedi defnyddio'r gwasanaeth, "Mae popeth wedi newid er gwell. Mae'r Gwasanaeth Galluogi Digidol wedi rhoi cymaint o hyder ac annibyniaeth i mi".
Meddai'r Cynghorydd Jo Hale, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ac Iechyd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, "Rydym am i'r holl breswylwyr allu cael mynediad at y byd digidol a theimlo'n gyfforddus wrth wneud hynny.
"Fodd bynnag, mae 'na bobl nad ydynt yn gallu defnyddio technoleg ddigidol o hyd. Mae hyn yn golygu eu bod yn colli'r cyfle i fanteisio ar dechnoleg a allai eu helpu gyda thasgau pob dydd.
"Dyna pam rydym yn annog pobl sydd â diddordeb mewn cael gwybod sut y gallant elwa o dechnoleg o gwmpas y cartref i gysylltu â Gwasanaeth Galluogi Digidol CNPT.
"Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i wella sgiliau digidol pobl o bob oed a gallu fel y gall pawb fwynhau manteision technoleg fodern."
Mae'r gwasanaeth hefyd yn cynnwys "Ystafell Atebion Digidol' yng Nghanolfan Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cimla. Yma, gall ymwelwyr archwilio'r dechnoleg ddiweddaraf y bwriedir iddi helpu pobl i fyw'n annibynnol gartref. Mae'r ystafell yn cynnwys gwasanaeth benthyca sy'n gadael i bobl fynd â chynnyrch digidol adref am gyfnod prawf cyn penderfynu p'un ai i'w prynu.
I drefnu ymweliad cartref gan y gwasanaeth, e-bostiwch Digitalenablement@npt.gov.uk neu ffoniwch 01639 686636.
Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.