Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Telerau ac Amodau

  • Dylai’r rhai sy’n cael eu henwebu naill ai fyw, gweithio, gwirfoddoli neu fod mewn addysg neu hyfforddiant o fewn i ffiniau Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
  • Gellir enwebu unigolion, grwpiau neu sefydliadau.
  • Mae croeso i chi enwebu eich hun, aelodau’r teulu, ffrindiau, cydweithwyr neu unrhyw unigolyn neu grŵp sy’n haeddu cydnabyddiaeth yn eich barn chi.
  • Gellir gwneud enwebiadau lluosog i’r un person, grŵp neu sefydliad mewn sawl categori.
  • Gall y panel beirniaid ystyried eich enwebiad mewn categori gwahanol os yw tîm y digwyddiad neu’r beirniaid yn barnu fod hynny’n addas.
  • Y panel beirniaid ar y cyd sy’n ystyried pwy yw’r enillydd mwyaf haeddiannol, waeth faint o enwebiadau a dderbynnir yn unrhyw gategori.
  • Does dim terfyn oedran ar gyfer cael eich enwebu.
  • Gellir craffu ar enwebiadau i sicrhau cywirdeb.
  • Gellir cyflwyno enwebiadau yn y dulliau canlynol: Ar lein: ar www.nptawards.wales neu drwy wefan Cyngor Castell-nedd Port Talbot Ysgrifennu at: Gwobr Dinasyddion y Maer, Ysgrifennydd y Maer, Cyngor CNPT, Canolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ.
  • Oni chynghorir ni’n wahanol byddwn yn tybio fod y rhai a enwebir neu sy’n ennill ac sy’n derbyn gwahoddiad i fynychu’r noson wobrwyo’n cytuno bod eu henw a’u llun yn cael ei rannu naill ai ar lein neu mewn print.
  • Rhaid derbyn pob enwebiad erbyn hanner dydd Llun 8 Ebrill 2024.
  • Cysylltir ag enillwyr y categorïau erbyn 16 Ebrill 2024.
  • Nodwch os gwelwch yn dda: Ar ôl derbyn cadarnhad cychwynnol fod enwebiadau ar lein wedi cael eu derbyn, efallai na fyddwn ni’n gallu cysylltu â phawb sydd wedi enwebu ar ran unigolion neu grwpiau nad oedden nhw’n fuddugol, Os dyma’r achos, peidiwch os gwelwch yn dda â gadael i hyn eich atal rhag eu cynnig ar gyfer unrhyw un o’n digwyddiadau gwobrwyo yn y dyfodol.
  • Bydd enillwyr pob categori’n cael cynnig 4 tocyn i fynychu’r noson wobrwyo. Bydd tocynnau’n cynnwys seddi wrth y bwrdd ynghyd â swper i bob gwestai.
  • Dewisir enillwyr gan banel beirniaid, o blith rhestr fer a gynhyrchwyd gan dîm y digwyddiad. Bydd y tîm yn ystyried pob enwebiad a dderbynnir, yn ogystal â chynnal proses adolygu lawn, sy’n cynnwys gwahodd enwebiadau o blith elusennau, gwasanaethau brys, sefydliadau gwirfoddol ac eraill, a chwilio am straeon newyddion mewn print ac archifau ar lein.
  • Bydd beirniadu’n digwydd yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 8 Ebrill 2024. Bydd y panel beirniaid yn cynnwys Maer a Dirprwy Faer Cyngor Castell-nedd Port Talbot, a chynrychiolwyr annibynnol o’r sectorau preifat a chyhoeddus.
  • Bydd penderfyniad y beirniaid yn derfynol. Bydd eu trafodaethau’n cael eu cadw’n gyfrinachol ac ni fydd llythyru’n digwydd o ran y penderfyniadau a wnaed.
  • Os oes gan unrhyw feirniad gyswllt uniongyrchol gydag un a enwebir, fydd ef / hi ddim yn cymryd rhan yn y broses benderfynu ar gyfer y categori perthnasol.
  • Data: bydd angen gwybodaeth gyswllt ar gyfer yr enwebwr a’r rhai a enwebir er mwyn cysylltu ynglŷn â’r Gwobrau, ac i anfon gwahoddiadau a darparu mwy o wybodaeth. Ni fydd y data’n cael ei ddefnyddio i unrhyw berwyl arall; ni chaiff ei rannu â’r un trydydd parti, na’i gadw’n hwy nag sydd angen y tu hwnt i ddyddiad y digwyddiad.
  • Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, anfonwch e-bost os gwelwch yn dda at awards@npt.gov.uk.