Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Hysbysiad o Canlyniad

Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 Adrannau 18a; 18b; Ac 18c 

Adolygiad o Ardaloedd Pleidleisio, Lleoedd Pleidleisio a Gorsafoedd Pleidleisio

HYSBYSIR drwy hyn bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi cwblhau adolygiad o Ardaloedd Pleidleisio, Mannau Pleidleisio a Gorsafoedd Pleidleisio o fewn ardal yr awdurdod lleol ac Etholaethau Seneddol Aberafan / Aberafan Maesteg, a Castell-nedd / Castell-nedd a Dwyrain Abertawe.

Wedi ystyried y cynrychiolaethau a dderbyniwyd, canlyniad yr Adolygiad yw nad oes angen gwneud unrhyw newidiadau i unrhyw un o'r Ardaloedd Pleidleisio.

Ystyriwyd cynrychiolaethau ynghylch Gorsafoedd Pleidleisio, ac mae'r Swyddog Canlyniadau wedi gwneud newidiadau i leoliadau rhai Gorsafoedd Pleidleisio. Mae manylion y newidiadau hyn hefyd ar gael i'w harchwilio. Bydd y newidiadau hyn ar waith ar gyfer unrhyw etholiadau a gynhelir ar ôl 1 Rhagfyr 2023.

Gellir archwilio dogfennaeth mewn perthynas â'r adolygiad hwn yn swyddfa'r Prif Weithredwr, Canolfan Ddinesig Port Talbot, yn ystod oriau swyddfa arferol, neu ar wefan y Cyngor.

Karen Jones
Prif Weithredwr

Y Ganolfan Ddinesig, Port Talbot SA13 1PJ

10 Tachwedd 2023