Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cyflwyniad i GCA

Mae'r Gwasanaeth Adnewyddu ac Addasu Tai yn darparu Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl (GCA) gorfodol yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Mae Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl ar gael i berchnogion preswyl a thenantiaid am amrywiaeth o brosiectau gwaith sy'n angenrheidiol i helpu pobl anabl i barhau i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi. Maent yn cynnwys hwyluso mynediad i'ch cartref, gan ddarparu cawodydd mynediad sy’n wastad, lifftiau grisiau, teclynnau codi, systemau mynediad drws, cyfleusterau ymolchi/toiled ar y llawr gwaelod a rheiliau cydio.

Ffeithiau am y grant:

  • Mae'n amodol ar asesiad gan y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Cymunedol
  • Mae'n amodol ar brawf adnoddau statudol
  • Mae'n gyfyngedig i £36,000
  • Mae ar gyfer gwaith addasu gorfodol yn unig
  • Gallai fod amodau ad-dalu ynghlwm wrtho

Sut i gyflwyno cais?


I gyflwyno cais am grant bydd angen gwneud cyfeiriad trwy Gateway CNPT ar 01639 686802 a fydd yn trosglwyddo'ch manylion i'r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Cymunedol. Oherwydd galw uchel, efallai y bydd rhaid i chi aros i gael eich asesu. Rydym yn gwella trwy'r amser i leihau unrhyw oedi. Ar ôl gwneud hyn byddwn yn cysylltu â chi i'ch asesu yn eich cartref i benderfynu pa gymorth y mae ei angen arnoch.

Yn ystod yr amser hwn byddwch yn cael eich rhoi ar restr aros am eich grant a bydd yr Adran Grantiau'n cysylltu â chi ar ôl cael eich rhyddhau o'r rhestr.

Ar ôl cael eich rhyddhau byddwn yn:

  • Ymweld â chi yn eich cartref a chwblhau ffurflen gais swyddogol ac, os bydd yn berthnasol, gynnal prawf adnoddau ffurfiol o'r enw prawf modd. Canlyniad y prawf modd hwn fydd y ffigur y bydd rhaid i chi ei gyfrannu tuag at gost yr addasiadau.
  • Cynnal arolwg i gadarnhau bod yr addasiadau a argymhellir yn ymarferol. Mae'n bosib y bydd angen cynlluniau yn ogystal â chymeradwyo rheoliadau cynllunio ac adeiladu.
  • Penodi contractwr o'n rhestr ddethol ac yn ei gyflwyno i chi. Yna bydd yntau'n cytuno ar ddyddiad i gwblhau'r addasiadau.
  • Byddwn yn goruchwylio ac yn cymeradwyo'r gwaith a wneir.
  • Byddwn yn darparu cefnogaeth a chymorth i chi yn ystod y broses grant.

Eich arweiniad fesul cam

  • Cam 1: Ffoniwch Dîm Gateway i wneud cyfeiriad
  • Cam 2: Bydd asesiad cartref yn cael ei gynnal i nodi eich anghenion
  • Cam 3: Caiff argymhellion eu gwneud a'u hanfon atom
  • Cam 4: Bydd y Tîm Grantiau'n cysylltu â chi i gwblhau eich cais
  • Cam 5: Byddwn yn ymweld â chi i drafod y gwaith yn eich eiddo
  • Cam 6: Caiff eich grant ei gymeradwyo
  • Cam 7: Rydym yn penodi contractwr ac yn ei gyflwyno i chi er mwyn cytuno ar ddyddiad dechrau  cyfleus
  • Cam 8: Byddwn yn sicrhau y caiff y gwaith ei gwblhau i'ch boddhad

    Caiff eich grant ei gwblhau.