Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Hysbysiad Preifatrwydd - Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol a Trafnidiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol

  1. Wrth ddarparu eich gwybodaeth bersonol i ni, rhydych yn cydnabod trwy hyn mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r Rheolwr Data ar gyfer yr holl wybodaeth bersonol a ddarperir gennych ar y ffurflen hon (at ddibenion Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a'r Ddeddf Diogelu Data 2018 (DPA).

  2. Bydd y data personol yr ydym yn ei chasglu drwy'r ffurflen hon yn cael ei defnyddio gan y Cyngor (yn unol iddo gyflawni ei swyddogaethau statudol a busnes amrywiol) at y dibenion canlynol
    1. Gweinyddiaeth a darparu Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol a Trafnidiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol

  3. Fel rheolwr data, mae'n ofynnol i'r Cyngor o dan GDPR rhoi gwybod i chi pa un o erthygl 6 "amodau prosesu data" GDPR y mae'n dibynnu arno i brosesu eich data personol yn gyfreithlon.  Yn hyn o beth, rhydym yn eich hysbysu, o rhan y data a ddarperir gennych ar y ffurflen hon, ein bod yn dibynnu ar y ddau amod erthygl 6 canlynol;
    1. Mae prosesu’r data yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae'r rheolwr yn ddarostyngedig iddo”. (Erthygl 6 (1)(c) GDPR).
    2. “Mae angen prosesu’r data ar gyfer cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i freinio yn y rheolwr.” (Erthygl 6 (1)(e) GDPR).

  4. Ni fyddwn yn rhannu eich data personol ag unrhyw drydydd partïon (h.y. personau / cyrff / endidau y tu allan i'r Cyngor) oni bai bod gofyn i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith.

    • Darparwyr trafnidiaeth i darparu'r trafnidiaeth
    • Gov Notify (i gohebiaeth)
  5. Bydd y wybodaeth bersonol a gesglir gennych yn cael ei chadw gan y Cyngor am gyfnod o 6 blynedd ar ôl i chi dderbyn y gwasanaeth ddiwethaf.

  6. Sylwch ei bod yn ofynnol i ni gasglu data personol penodol o dan ofynion statudol ac mewn achosion o'r fath gallai methiant gennych chi i ddarparu'r wybodaeth honno i ni olygu na fydd y Cyngor yn gallu darparu gwasanaeth i chi a / neu gallai eich gwneud yn atebol i achos cyfreithiol.

  7. Byddem yn eich hysbysu bod gennych  aw lar unrhyw adeg o dan Erthygl 21 GDPR I wrthwynebu’r awdurdod am y ffaith ein bod yn prosesu eich data personol at ddibenion cyflawni tasg gyhoeddus neu ymarfer ein hawdurdod swyddogol.

  8. Ni fydd y Cyngor yn trosglwyddo unrhyw ran o’ch data personol y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu wlad arall gyda phenderfyniad digonolrwydd.

  9. Ni fydd y Cyngor yn defnyddio'ch data personol at ddibenion gwneud penderfyniadau awtomataidd.

  10. Fe'ch cynghorir o dan GDPR bod unigolion yn cael yr hawliau canlynol o rhan eu data personol:
    1. Yr hawl i gael mynediad at eu data personol a gedwir gan rheolwr data.
    2. Yr hawl i gael data anghywir eu cywiro gan rheolwr data.
    3. Yr hawl i gael eu data wedi'i ddileu (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig).
    4. Yr hawl i gyfyngu ar brosesu eu data gan rheolydd data (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig).
    5. Yr hawl i wrthwynebu i'w data gael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol.
    6. Yr hawl i gludadwyedd data (h.y. trosglwyddo data yn electronig i rheolydd data arall).

Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr holl hawliau uchod o wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.

  1. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'n defnydd o'ch data personol, yr ydych am gael mynediad neu os ydych am wneud unrhyw gŵyn ynghylch prosesu eich data personol, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data'r Cyngor yn y Gyfarwyddiaeth Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Canolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ.

  2. Fe'ch cynghorir, os gwnewch gais neu gŵyn i Swyddog Diogelu Data'r Cyngor (gweler 9 uchod) a'ch bod yn anfodlon ag ymateb y Cyngor, mae gennych hawl i gwyno'n uniongyrchol i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Gellir cael manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd a gwybodaeth bellach am eich hawliau oddi ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.